Dedfrydu dyn o Gaerdydd i garchar am oes am lofruddio ei wraig 'annwyl'
Mae dyn o Gaerdydd a drywanodd ei wraig i farwolaeth mewn maes parcio wedi cael ei garcharu am oes yn Llys y Goron Caerdydd.
Trywanodd Thisara Weragalage, 38, ei wraig, Niwunhellage Dona Nirodha Kalpani Niwunhella (oedd yn cael ei galw’n Nirodha), sawl gwaith mewn maes parcio i breswylwyr yn ardal Glanyrafon, Caerdydd.
Roedd y cwpl wedi gwahanu ers misoedd, ond ar fore 21 Awst 2025, aeth Weragalage i’r maes parcio gan wybod bod ei wraig wedi parcio ei char yno. Roedd wedi prynu cyllyll y diwrnod cynt a defnyddiodd un ohonynt i ladd Nirodha.
Mae Thisara Weragalage o Bentwyn bellach wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar gydag isafswm o 23 mlynedd a naw mis.
Roedd yn wreiddiol wedi pledio’n ddieuog ond fe newidiodd ei ble yn Llys y Goron Caerdydd ar 16 Ionawr.
Wrth roi teyrnged wedi ei marwolaeth, dywedodd teulu Niwunhellage Dona Nirodha Kalpani Niwunhella mai “merch, aelod o’r teulu a ffrind annwyl i nifer” oedd Nirodha.
Mewn datganiad dioddefwr personol a gafodd ei ddarllen yn y llys ddydd Gwener, dywedodd ei thad mai Nirodha oedd ei unig ferch.
“Roedd hi’n caru ei mam a’i thad yn fawr ac roedd yn ffrind da iawn i’w ffrindiau," meddai.
"Roedd yn ferch annwyl oedd yn caru anifeiliaid.”
Ychwanegodd: “Rwyf yn 64 oed ac mae fy ngwraig hefyd yn 64 oed.
“Does dim modd rhoi'r poen a gofid a wnaethom ni eu teimlo pan gawson ni wybod am ei llofruddiaeth ar 21 Awst mewn i eiriau.”
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i ardal Riverside, Caerdydd, am 07.37 ar 21 Awst, yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi’i hanafu’n ddifrifol.
Er gwaethaf eu hymdrechion bu farw yn y fan a’r lle.
Roedd Nirodha wedi’i thrywanu o leiaf 20 o weithiau, yn ôl yr awtopsi.
Dywedodd Emma Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Thisara Weragalage wedi cynllunio ei ymosodiad. Bu’n ymweld â’r ardal sawl gwaith cyn yr ymosodiad a phrynodd arf i lofruddio.
“Roedd ei ragfwriad yn ffactor sylweddol yn y llofruddiaeth frawychus hon.
“Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dangos ei fwriad, ac fe blediodd y diffynnydd yn euog.
“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio gyda'r heddlu i adeiladu achosion cryf yn erbyn y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod a merched, ac mae ein herlynwyr yn sicrhau bod mwy o ddioddefwyr y troseddau ffiaidd hyn yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu.
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Nirodha, sydd wedi dioddef colled enfawr.”