Beth mae'r newidiadau i wasanaethau Hywel Dda yn ei olygu i chi?

Beth mae'r newidiadau i wasanaethau Hywel Dda yn ei olygu i chi?

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cefnogi gwneud newidiadau i nifer o'i wasanaethau.

Mewn cyfarfod cyhoeddus eithriadol ddydd Mercher a Iau, fe wnaethon nhw gytuno i roi sêl bendith i newidiadau i naw o wasanaethau ar ôl cynnal ymgynghoriad y llynedd.

Mae pedwar o brif ysbytai gan Hywel Dda – Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Bydd y penderfyniadau’n gweld rhai gwasanaethau arbenigol yn cael eu crynhoi ar lai o safleoedd ysbytai.

Mae canoli gwasanaethau yn ysbytai'r bwrdd iechyd wedi profi’n ddadleuol mewn ardal mor fawr, gyda thua awr a hanner o amser teithio rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Lleihau nifer yr unedau strôc

Y penderfyniad mwyaf amlwg a dadleuol yw’r un i leihau nifer yr unedau strôc arbenigol yn ysbytai'r bwrdd o bedwar i un.

Fe glywodd cyfarfod bwrdd Hywel Dda mai’r newidiadau hyn oedd wedi denu “y mwyaf o wrthwynebiad”.

Roedd ymgyrchu helaeth wedi bod yn nalgylch Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ar y pwnc.

Ar hyn o bryd, mae unedau strôc yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Aberystwyth a Hwlffordd.

Mae’r bwrdd iechyd wedi cytuno mai dim ond un fydd yn y dyfodol, wedi'i leoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Fe fydd yna "wasanaeth trin a throsglwyddo" ar gyfer dioddefwyr strôc yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn ogystal ag yn Llanelli a Hwlffordd.

Image
Protest Bronglais
Protest y tu allan i Ysbyty Bronglais

Rhoi’r gorau i lawdriniaeth gyffredinol frys mewn un ysbyty

Y tu hwnt i’r unedau strôc, fe fydd llawdriniaeth gyffredinol frys yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd hefyd yn dod i ben os caiff y cynlluniau eu gweithredu.

Yn lle hynny, bydd Gofal Brys yr Un Diwrnod (SDEC) yr ysbyty yn cael ei gryfhau.

Bydd llawdriniaeth gyffredinol frys yn parhau yn Aberystwyth a Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Gofal critigol

Ar hyn o bryd, mae gan bob un o'r pedwar ysbyty uned gofal dwys (ICU).

O dan y cynigion, byddai'r gwasanaeth yn Llanelli yn newid i uned gofal ychwanegol, a all ddarparu gwasanaethau i gleifion sefydlog yn hytrach na'r lefel uwch o ofal sy'n cael ei ddarparu mewn ICU.

Penderfynodd y bwrdd gymeradwyo'r opsiwn a fyddai'n gweld unedau gofal dwys yn aros yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hwlffordd.

Nod hyn yw helpu i fynd i'r afael â phwysau staffio hirsefydlog a gwella diogelwch ac ansawdd gofal i'r cleifion mwyaf difrifol wael, meddai Hywel Dda.

Image
Ysbyty Llwynhelyg
Ysbyty Llwynhelyg

Newidiadau eraill

Cytunodd y bwrdd iechyd i newidiadau i chwe gwasanaeth arall – offthalmoleg, orthopedeg, dermatoleg, wroleg, endosgopi a radioleg.

Offthalmoleg

• Penderfynwyd crynhoi prif wasanaethau offthalmoleg, gan gynnwys gofal llygaid brys, yn Ysbyty Glangwili.
• Bydd gwasanaethau diagnosteg/cleifion allanol yn cael eu darparu o leoliadau cymunedol.

Orthopedeg

• Mae cynlluniau i symud gwasanaethau orthopedig cynlluniedig/achosion dydd llai cymhleth i safleoedd fel Llwynhelyg a Bronglais.
• Bydd rhagor o gydweithio i drin cleifion gyda Bwrdd Iechyd Abertawe.

Dermatoleg

• Bydd gwasanaethau dermatoleg arbenigol yn cael eu crynhoi yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
• Bydd mwy o ofal yn cael ei ddarparu'n lleol drwy delefeddygaeth a chlinigau dan arweiniad nyrsys/gweithdrefnau bach yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi.

Wroleg

• Bydd pob claf wroleg dros nos nad yw'n argyfwng yn cael ei grynhoi yn Ysbyty'r Tywysog Philip, a bydd canolfan ddiagnostig wroleg yno.
• Bydd Glangwili yn delio ag wroleg frys yn unig.

Endosgopi

• Bydd gwasanaethau endosgopi anadlol a wroleg yn cael eu dwyn ynghyd yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
• Bydd sgrinio gastroberfeddol a'r coluddyn yn parhau ar bob safle ysbyty, ac ni fydd newid i endosgopi brys ar draws safleoedd eraill.

Radioleg

• Dros amser, mae diagnosteg wedi'i chynllunio i symud tuag at wasanaeth saith diwrnod yr wythnos yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty Withybush.
• Gallai Glangwili ganolbwyntio ar radioleg ymyriadol i gleifion mewnol yn unig.

Pryd fydd y newidiadau yn dod i rym?

Mae cleifion yn cael eu cynghori y bydd y gwasanaethau yn parhau fel yr arfer am y tro.

Mae disgwyl i'r newidiadau ddigwydd yn raddol dros sawl blwyddyn.

Dywedodd Hywel Dda y bydd y newidiadau i’r gwasanaethau strôc yn golygu cyfnod pellach o ymgysylltu â'r gymuned, gan gynnwys asesiad risg.

Image
Ifan a Heulwen Williams
Ifan a Heulwen Williams

Beth yw’r ymateb gan gleifion?

Fe ddioddefodd Ifan Williams strôc yn 2017 yn dilyn damwain ar ei fferm.

Dim ond gair da sydd gan ei wraig, Heulwen Williams, i’w ddweud am y gofal y derbyniodd ei gŵr ym Mronglais, ond mae hi’n pryderu’n fawr am y newidiadau.

“Da ni’n teimlo’n drist, tydan,” meddai. “Dim jyst ni, ond er mwyn pobl eraill.

“Mae gyda ni lot o ffrindiau, a byddai hi’n bellach fyth iddyn nhw. Fe fyddai hi’n cymryd dwy awr a hanner, tair awr iddyn nhw nawr.

“Efo strôc ddrwg, fyddai fo ddim yma oni bai am Bronglais – mae hynny’n wir.”

Dywedodd Lisa Francis, cadeirydd grŵp Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, ei bod hi hefyd yn siomedig.

"Mae'n ddiflas achos efallai fydd 'na ddim doctor strôc ym Mronglais ar ôl hynny," meddai.

"Fe fydd rhyw fath o uned adsefydlu, ond efallai bydd Bronglais heb uned strôc.”

Beth mae Hywel Dda yn ei ddweud?

Mae Huw Thomas, cyfarwyddwr cyllid y bwrdd iechyd, wedi pwysleisio nad yw’r penderfyniadau'n ymwneud ag arbed arian.

Yn hytrach roedden nhw’n crynhoi gwasanaethau oherwydd “bregusrwydd, creu gwasanaethau cynaliadwy a safonau clinigol”.

“Ond mae 'da ni ddyletswydd i'r trethdalwr hefyd."

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae llawer o’r penderfyniadau a wnaed heddiw yn seiliedig ar opsiynau amgen gafodd eu cynnig gan aelodau’r cyhoedd trwy’r ymgynghoriad, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i lunio’r syniadau hyn ochr yn ochr â ni.

"Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd, ond fel Bwrdd mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein gwasanaethau yn darparu'r canlyniadau gorau i'n cleifion ac yn bodloni’r safonau uchaf."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.