Archesgob Cymru ddim am 'fwrw ymlaen â phenodi esgob dros dro' ar gyfer Esgobaeth Bangor
Mae Archesgob Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn "bwrw ymlaen" â'r broses o benodi Esgob Dros Dro ar gyfer Esgobaeth Bangor.
Mewn datganiad ddydd Gwener, fe ddywedodd Archesgob Cymru Cherry Vann: "Rydym wedi cynnal cyfweliadau ar gyfer Esgob Dros Dro Bangor."
Aeth ymlaen i ddweud fod yn "rhaid i unrhyw broses o ddirnad fod yn agored i’r posibilrwydd nad yw’n briodol bwrw ymlaen yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio.
"Dyna sydd wedi digwydd ar yr achlysur hwn, ac felly ni fyddwn yn bwrw ymlaen â phenodi esgob dros dro.
"Yn hytrach, rwy’n mynd i ofyn i Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethu ailgychwyn proses y coleg etholiadol."
Daw hyn wedi cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin y llynedd.
Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.
Mae’r sefydliad yn wynebu diffyg ariannol gweithredol o £300,000 erbyn diwedd 2025 hefyd, ac fe gafodd ymgynghoriad ei gynnal ar ddiswyddiadau posib ddechrau mis Medi.
