Defaid yn cael eu hachub o glogwyn yn Eryri
Bu’n rhaid i ddwy ddafad gael eu hachub ddydd Mercher ar ôl mynd i drafferthion ar glogwyn yn Eryri.
Cafodd chwech aelod o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw ar ôl i’r defaid cael eu gweld gan ffermwr lleol.
Roedd y defaid wedi bod yn sownd yno dros nos.
Dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen nad oedden nhw am ddisgyn i lawr rhaffau tuag at y defaid rhag ofn iddyn nhw gael ofn a neidio i ffwrdd.
Felly fe daflwyd rhaffau i lawr er mwyn tynnu un o’r tîm i fyny’r graig o’r gwaelod.
Fe wnaeth un o’r defaid neidio i freichiau ei hachubwr ac fe gafodd y llall ei hachub yn ddiweddarach.
Ar ôl cael eu gosod nôl ar y tir fe rhedodd y defaid i ffwrdd heb unrhyw anaf, meddai'r tîm achub mynydd.
Lluniau: TAMDO