Rhybudd am fwy o oedi ar yr Eurostar wrth i deithiau ailgychwyn

Llun: PA
St Pancras Eurostar

Mae teithwyr yr Eurostar wedi cael rhybudd y gallai oedi a chanslo teithiau barhau ddydd Mercher, er gwaethaf ailddechrau gwasanaethau ar ôl toriad pŵer yn Nhwnnel y Sianel.

Roedd oedi am oriau nos Fawrth ar ôl i'r Eurostar ganslo pob un o'u gwasanaethau rhwng Llundain ac Ewrop pan oedd toriad pŵer a trên wnaeth stopio gweithio blocio'r rheilffordd.

Fe wnaeth rai gwasanaethau ailgychwyn nos Fawrth ond dywedodd yr Eurostar bod "problemau parhaus gyda seilwaith y rheilffordd dros nos".

Dywedodd rhai teithwyr eu bod nhw yn sownd ar drenau dros nos, gydag un dyn yn dweud ei fod wedi gadael Llundain ar y gwasanaeth 19:01 i Baris ond bod y trên wedi dod i stop wrth fynediad y twnnel am 03:00.

Mewn datganiad dywedodd Eurostar eu bod yn "cynllunio i redeg pob gwasanaeth ddydd Mercher, fodd bynnag o ganlyniad i ddigwyddiadau ddydd Mawrth mae'n bosib bydd oedi a chanslo gwasanaethau ar y funud olaf".

Cafodd trên cyntaf ddydd Mercher o St Pancras i orsaf Gare du Nord ym Mharis, a oedd fod i gychwyn am 06:01, ei ganslo, tra bod y gwasanaeth 06:31 wedi'i restru fel un wedi'i ohirio "oherwydd problem dechnegol ar drên arall" yn y twnnel.

Roedd pob gwasanaeth arall yn ymddangos fel yr amserlen ar wefan y cwmni.

Nos Fawrth roedd yr Eurostar yn cynghori teithwyr i ail-archebu gwasanaethau ar gyfer diwrnod arall os yn bosibl.

“Er ei fod y tu hwnt i’n rheolaeth, rydym yn ymddiheuro am yr aflonyddwch heddiw a byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a’u cefnogi i ail-drefnu eu harchebion," meddai'r cwmni mewn datganiad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.