'Pryderon iechyd' oherwydd biniau’n gorlifo yn Llandudno

Biniau sbwriel Conwy

Mae Cyngor Sir Conwy wedi ei feirniadu ar ôl i'r awdurdod feio trigolion am orlenwi biniau cyhoeddus dros cyfnod y Nadolig.

Yn gynharach yr wythnos hon, roedd trigolion a chynghorwyr wedi cwyno ar ôl i finiau ledled Llandudno gael eu gadael heb eu gwagio dros y cyfnod y Nadolig, gan achosi i rai pobl adael bagiau ar ben neu o’u hamgylch.

Roedd biniau ar Stryd Augusta, Ffordd Rhydychen, Yr Ofal, Ffordd Conwy, a Stryd Vaughan ymhlith y rhai a oedd wedi'u pentyrru'n uchel gyda sbwriel yn gorlifo, gyda bagiau wedi'u gadael ar y palmant pan nad oedd lle.

Dywedodd y Cynghorydd Louise Emery fod hyn yn "berygl iechyd".

Fe wnaeth y Cyngor feirniadu rhai perchnogion cŵn am stwffio bagiau baw i finiau a oedd eisoes wedi'u gorlenwi.

Dywedodd y Cyngor fod staff yn gweithio "rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, gan gynnwys gwagio biniau".

Ychwanegodd y cyngor fod ei staff yn gweithio "dros y penwythnos" pan oeddent "allan o 07:00 i 15:00 yn gwagio biniau ac yn casglu sbwriel ledled y sir".

Fe wnaeth yr awdurdod hefyd feio’r cyhoedd am beidio â gwaredu sbwriel yn iawn.

“Mae’n siomedig pan nad yw pobl yn gyfrifol gyda’u gwastraff, ac nid oes esgus dros ollwng sbwriel ar y llawr neu dipio’n anghyfreithlon," meddai'r cyngor.

“Os yw bin yn llawn, dylai pobl ddefnyddio’r bin nesaf sydd ar gael yn lle hynny neu fynd â’u sbwriel adref gyda nhw.”

Torri staff

Mae cynghorydd Hen Golwyn, David Carr, wedi dweud wrth y Cyngor i beidio â beio trigolion.“Ni allwch dorri staff a thorri nifer y biniau sydd ar gael a disgwyl na fydd llwythi o sbwriel,” meddai.

“Ni allwch barhau i feio’r cyhoedd drwy’r amser.

“Rydym wedi cael cynnydd mawr yn nhreth y cyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ers yr etholiad diwethaf, mae wedi bod dros 30%.

“Nid ydym yn gwybod beth fydd hi eleni. Mae’r cyngor yn torri gwasanaethau, nifer y bobl sydd ar gael. 

"Ni all y cyngor ddisgwyl unrhyw beth gwahanol. Rydym yn cael problemau gyda recriwtio a chadw staff.”

Ychwanegodd: “Mae’n anheg beio’r cyhoedd pan fo llai o bobl yn cael gwared ar y sbwriel a llai o finiau. Mae’r cyngor wedi cael gwared ar rai biniau baw cŵn. Mae’r cyhoedd yn talu mwy a mwy ac yn cael llai a llai.”

Cysylltwyd â Chyngor Sir Conwy am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.