Casnewydd i herio Morecambe yn Wembley
Fe fydd tîm pêl-droed Casnewydd yn wynebu Morecambe ddydd Llun yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.
Roedd yr Alltudion wedi gallu sicrhau eu safle yn y rownd derfynol ar ôl gêm gyffrous yn erbyn Forest Green 23 Mai, gyda chanlyniad o 5-4 dros y ddau gymal.
Daw hyn ddau ddiwrnod ar ôl i Abertawe golli yn erbyn Brentford o 2-0 yn yr un stadiwm ddydd Sadwrn.
Y gobaith yw y caiff Casnewydd mwy o lwyddiant a cheisio ennill dyrchafiad i Adran Un.
Dywedodd rheolwr y tîm, Michael Flynn, y byddai’n “falch iawn” o arwain ei dîm i ddyrchafiad.
“Gan fy mod i’n dod o’r ardal, fi’n gwybod beth fyddai hyn yn ei olygu i’r bobol,” dywedodd Mr Flynn.
“Os byddwn ni’n gallu arwain y tîm i Adran Un, fi fyddai'r dyn mwyaf balch yng Nghasnewydd.
“Mae’r daith hyd yma wedi bod yn un positif, yr unig beth sydd ar goll yw’r dyrchafiad – dyna beth 'dan ni eisiau mwy na dim.”
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans