Storm Austen: Rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion i Gymru ddydd Gwener
Storm Austen: Rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion i Gymru ddydd Gwener
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion i Gymru gyfan ddydd Gwener yn sgil Storm Austen.
Bydd y rhybudd cyntaf yn dod i rym am hanner nos ac yn parhau tan 17.00, gan effeithio ar 18 o siroedd yng ngogledd, gorllewin a de Cymru.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai gwyntoedd cryfion o’r gorllewin a’r gogledd-orllewin ddod â hyrddiau o rhwng 50 a 60 milltir yr awr.
Gallai’r hyrddiau gyrraedd 70 milltir yr awr neu fwy mewn rhai mannau arfordirol ac agored.
Bydd y tywydd garw yn symud tua’r dwyrain yn ystod y dydd, gydag ail rybudd yn dod i rym am 10.00 ac yn parhau tan 21.00.
Bydd y rhybudd hwnnw yn effeithio ar naw o siroedd yng ngogledd, dwyrain a de Cymru.
Er nad oes disgwyl i’r gwyntoedd fod mor gryf yn ardaloedd yr ail rybudd, mae posibilrwydd o wyntoedd cryfion mewn mannau mewndirol yn ystod y dydd, gyda hyrddiau o tua 45 i 55 milltir yr awr.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod posibilrwydd y bydd adeiladau’n cael eu difrodi, gan gynnwys teils yn cael eu chwythu oddi ar doeau.
Gallai’r tywydd hefyd darfu ar wasanaethau trenau, bysiau, awyrennau a fferïau, gyda theithiau’n cymryd mwy o amser neu’n cael eu canslo.
Mae siawns fach y bydd rhai ffyrdd a phontydd yn cau, ac y bydd toriadau trydan a allai effeithio ar wasanaethau eraill, gan gynnwys signal ffonau symudol.
Bydd cyfnodau o law trwm hefyd yn gwneud teithio’n anoddach.
Bydd y rhybudd cyntaf yn effeithio ar y siroedd canlynol:
Blaenau Gwent
Bro Morgannwg
Caerdydd
Caerffili
Casnewydd
Ceredigion
Gwynedd
Ynys Môn
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Sir Benfro
Pen-y-bont ar Ogwr
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Gaerfyrddin
Abertawe
Torfaen
Bydd yr ail rybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Sir Fynwy
Powys
Wrecsam