Golau gwyrdd i adolygiad annibynnol o ymateb Cymru i bandemig Covid-19

Covid

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r golau gwyrdd i gynlluniau i gynnal adolygiad annibynnol o ymateb Cymru i bandemig Covid-19.

Daw'r penderfyniad yn dilyn addewid gan Blaid Cymru yn ei maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd i edrych ar y modd y gwnaeth Llywodraeth Lafur Cymru ymdrin â’r pandemig.

Bydd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, Dafydd Trystan Davies, yn gyfrifol am sefydlu’r adolygiad.

Mae grŵp Teuluoedd dros Gyfiawnder mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru, sy’n cynrychioli pobl wnaeth golli anwyliaid yn ystod y pandemig, wedi bod yn galw ers blynyddoedd am ymchwiliad penodol i Gymru.

Ond gwrthododd Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, gan ddweud y dylai ymateb Cymru i’r pandemig gael ei gynnwys mewn ymchwiliad ehangach i’r DU gyfan.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd bellach yn cael ei arwain gan Blaid Cymru: "Mae Gweinidog y Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad wedi cytuno i sefydlu Adolygiad Annibynnol o Covid-19 yng Nghymru. 

"Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law."

'Cwestiynau anodd'

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyfle i graffu ar benderfyniadau'r llywodraeth yn ystod y pandemig.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar, ei bod yn edrych ymlaen at graffu ar gyfnod "eithriadol a thrallodus".

"Mae cwestiynau anodd y mae angen mynd i’r afael â nhw, gan gynnwys pam y caniatawyd i’r feirws ledaenu mewn cartrefi gofal a pham y mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull llymach o ran y cyfnodau clo o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU," meddai.

Mark Drakeford oedd Prif Weinidog Cymru yn ystod y pandemig, gyda Vaughan Gething ac Eluned Morgan - dau o olynwyr Mr Drakeford yn y brif swydd - yn gwasanaethu fel gweinidog iechyd yn y cyfnod.

Roedd Llywodraeth y DU dan lywyddiaeth y Prif Weinidog Ceidwadol, Boris Johnson.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.