Ben Lake AS: Tlodi plant yng Nghymru bellach yn ‘argyfwng difrifol’
Mae sefyllfa tlodi plant yng Nghymru erbyn hyn yn “argyfwng difrifol,” yn ôl un o aelodau seneddol Plaid Cymru.
Daw sylwadau Ben Lake AS wrth i sefydliadau roi tystiolaeth o flaen pwyllgor o ASau Cymreig ar ddechrau eu hymchwiliad i ddod â thlodi plant yng Nghymru i ben.
Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn dweud bod 32% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae’r ffigwr wedi aros yn gyson ers tua chwarter canrif.
Ond yn ôl Sefydliad Bevan, elusen ym maes tlodi, mae bron i hanner y plant sy’n byw mewn tlodi erbyn hyn yn byw mewn sefyllfaoedd “dwfn iawn”.
'Rhaid dechrau gweithredu'
Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Ben Lake, sy’n aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig fu'n gwrando ar y dystiolaeth yn San Steffan, bod y sefyllfa erbyn yn "argyfwng difrifol".
"Mae'r sefyllfa yn un wael ar nifer o deuluoedd a phlant. Mae’n rhaid dechrau gweithredu," meddai.
"Mae ’na ambell i gynllun sydd yn gallu helpu, er enghraifft mae prydau ysgol am ddim yn fesur sydd wedi bod yn weddol effeithiol mewn rhai mannau.
"Mae hefyd unrhyw gefnogaeth pellach i ofal plant yn gallu helpu’r sefyllfa."
Mae Gwennan Bryant yn fam i ddau o blant ac yn byw yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd, ac mae’n dweud fod sawl her i deuluoedd ifanc.
"Heriau o ran costau byw, gofal plant yn benodol," meddai.
Dydi Gwennan heb ddychwelyd i'w gwaith arferol ar ôl genedigaeth ei hail blentyn.
"I fi, doedd gweithio ddim yn opsiwn, doeddwn i methu mynd nôl i'r gwaith ar ôl yr ail achos fyddai costau i edrych ar ôl nhw yn ormod, yn fwy na be’ fyddwn i'n cael fel cyflog," meddai.
"Dwi wedi ffeindio gwaith le fi'n gallu gweithio yn hyblyg o adre, so m'a hwnna'n gwneud pethe'n haws, ond wedyn o'n i ddim yn gallu mynd nôl i'r gwaith oeddwn i'n neud cynt."
'Tlodi yn dyfnhau'
Bu Mabli Siriol Jones, pennaeth polisi Sefydliad Bevan, yn rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan brynhawn Mercher.
Mae’n dweud bod 47% o’r plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru erbyn hyn yn byw mewn tlodi dwfn.
"Y prif bethau sy’n achosi tlodi ydi diffyg incwm i allu cwrdd â'r costau sy'n wynebu teulu. ’Dan ni'n gwybod bod yna gyswllt gyda faint o rieni yn y teulu sy'n gweithio yn gallu cael effaith ar dlodi,” meddai.
"Mae costau fel ynni a bwyd i gyd wedi codi a dyna be sy'n gyrru'r tlodi ’dan ni’n ei weld ar hyn o bryd.”
Ychwaengodd: "Mae'r tlodi yn dyfnhau. ’Dan ni'n gwybod nawr bod hanner y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn tlodi dwfn iawn ac mae'r bobl yna wir yn mynd heb rai o'r hanfodion yna ’dan ni wir ei angen."
Mae Mabli yn pwysleisio ei fod yn broblem ar draws Cymru.
"Dwi'n meddwl yn anffodus mae pawb wedi dod i arfer hefo'r ystadegyn bod un ymhob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi a dydi hyn ddim yn dderbyniol," meddai.
"’Dan ni rili isio gweld Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth maen nhw'n gallu i dynnu mwy o blant allan o dlodi."
Gofal plant a newid i fudd-daliadau
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y cynnig newydd “ar gyfer gofal plant, ar ôl ei ehangu’n llawn, yn fwy hael nag unrhyw gynnig arall yn y Deyrnas Unedig, gan wneud gofal plant yn fwy hygyrch a fforddiadwy i deuluoedd”.
Fe ddywedodd llefarydd bod “pob un o’r 22 awdurdod lleol bellach ar y trywydd iawn i gyflwyno cam cyntaf yr ehangu, sef 12.5 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â dim ond tri awdurdod lleol ar ddechrau tymor y llywodraeth ym mis Mai”.
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod yn benderfynol o droi’r llanw ar dlodi a bod eu strategaeth “am godi dros hanner miliwn o blant allan o dlodi erbyn blwyddyn olaf y tymor presennol”.
Maen nhw hefyd yn nodi y bydd cael gwared â’r cap budd-dal dau blentyn o fudd i tua 69,000 o blant yng Nghymru.
Er yn cydnabod bod datblygiadau o ran cymorth gyda gofal i blant, dywedodd Gwennan ei bod am weld mwy o newid.
"Help ar ôl ysgol, gwneud siŵr bod clybiau ar gael i blant. 'So jobs yn benni am dri fel mae'r ysgol yn gorffen, so 'so fe wastad yn gneud sens o ran casglu a phethe," meddai.
"Fydde help gyda gofal er mwyn gwneud siŵr bo' ni'n gallu mynd nôl i'r gwaith yn iawn."