Rhybudd bod angen 'gweithredu rŵan' wedi haf o danau gwyllt yng Nghymru

tânMOD1.

Roedd y tanau gwyllt yng Nghymru dros yr haf yn “rhybudd difrifol o'r hyn sydd o'n blaenau ni oni bai ein bod ni'n gweithredu rŵan” yn ôl y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, fydd yn agor uwchgynghadledd arbennig i wella ymateb y wlad i argyfyngau o’r fath.

Fe fydd y digwyddiad ddydd Iau yn dod â’r llywodraeth a gwahanol asiantaethau at ei gilydd wedi pwysau digynsail ar ddiffoddwyr tân eleni.

Ar un pryd, roedd yn rhaid i ddiffoddwyr ddelio gyda 14 o danau gwyllt ar yr un pryd, gyda phedwar digwyddiad mawr yn cael eu datgan gan yr awdurdodau.

Yn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - ble bu’n rhaid galw am help gan ddiffoddwyr o Loegr a’r fyddin ym mis Awst - cafodd dros 1,000 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thanau gwyllt eu cofnodi, gyda chynnydd o 227% mewn galwadau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn yr haf y byddan nhw’n dod â phobl a sefydliadau sy’n ymwneud â’r maes at ei gilydd mewn uwchgynhadledd am y tro cyntaf.

Mae disgwyl i faterion allweddol fel cefnogaeth awyrennau a hofrenyddion diffodd tân, trefniannau ariannu a thechnegau atal tanau gael eu trafod yn ystod y digwyddiad.

'Camau ymarferol'

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Roedd y tanau gwyllt welsom ni ym mis Gorffennaf a mis Awst yn ddinistriol i lawer o gymunedau yng Nghymru. Diolch i'n gwasanaethau tân ac achub, sefydliadau partner a chymunedau lleol, cafodd y tanau eu diffodd yn llwyddiannus gydag ychydig iawn o anafiadau.

“Ond roedd y tanau yn rhybudd difrifol o'r hyn sydd o'n blaenau ni oni bai ein bod ni'n gweithredu rŵan. Mae angen yr un ysbryd cydweithio a welsom ni dros yr haf wrth inni edrych ar y risgiau sy'n ein hwynebu ni yn y dyfodol. 

Image
Rhun ap Iorwerth
Tanau gwyllt yr haf oedd un o'r heriau cyntaf i Rhun ap Iorwerth fel prif weinidog

“Roedd tanau’r haf hwn yn llawer mwy peryglus na'r tanau yn y gorffennol. Mi wnaeth y tonnau gwres greu toreth o danwydd sych a llosgadwy ar ein bryniau ni. A mi ddigwyddodd hynny ar frig y tymor twristiaeth a hamdden awyr agored, gan gynyddu a chynnal y risg o danau damweiniol, a thanau oherwydd diofalwch neu oherwydd camau troseddol bwriadol.

“Er na allwn ni wrthdroi'r newid yn yr hinsawdd, gallwn ni gymryd camau ymarferol i gadw'r risg o danau gwyllt mor isel â phosibl ac i sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol i unrhyw ddigwyddiadau. Dyna pam rydyn ni wedi dod at ein gilydd ar gyfer yr Uwchgynhadledd heddiw – mae angen inni ddysgu o ddigwyddiadau'r haf yma, ac mae angen inni weithredu gyda'n gilydd.

“Nid heddiw ydy dechrau na diwedd y camau y bydd angen i ni eu cymryd, ond mi allwn ni, ac mae'n rhaid i ni, ddod i gonsensws o ran sut y byddwn ni'n cydweithio i fynd i'r afael â'r her gynyddol hon dros y blynyddoedd nesaf.”

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, yr asiantaeth sy'n gyfrifol am reoli materion amgylcheddol ar draws Cymru, bod yr uwchgynhadledd "yn gyfle hollbwysig i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu, i gryfhau cysylltiadau, ac i ystyried sut gall Cymru baratoi ar gyfer y risgiau cynyddol a gaiff eu hachosi gan y newid yn yr hinsawdd, a lleihau’r risgiau hynny."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.