'Hi oedd ein craig': Cyhoeddi enw menyw sy'n destun ymchwiliad llofruddiaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw menyw 47 a fu farw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun.
Cafodd swyddogion eu galw i Heol Coity yn y dref am tua 12:43 ar ôl derbyn adroddiad fod gwrthdrawiad wedi digwydd.
Ar ôl cyrraedd, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod fod y gyrrwr wedi dioddef anafiadau nad oedd yn ymddangos fel eu bod yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad.
Cafodd y gyrrwr ei chludo i'r ysbyty ar ôl derbyn cymorth meddygol ond fe fu farw'n ddiweddarach.
Mae ei henw bellach wedi ei ryddhau gan yr heddlu.
Roedd Eleanor Barnfield yn dod o Ben-y-bont ac roedd yn gweithio i gwmni Valleys to Coast.
Mae dyn 61 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd teulu Eleanor Barnfield mewn teyrnged iddi: “Mam oedd y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd.
"Roedd hi’n golygu popeth i ni, a bydd ei theulu a’i ffrindiau ymroddedig yn ei charu ac yn ei cholli’n fawr am byth. Hi oedd ein craig.”
Dywedodd y Prif Uwch-arolygwr Jason Rees: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu Eleanor. Hoffwn sicrhau’r gymuned bod timau o dditectifs a staff arbenigol wrthi’n ymchwilio.
"Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chefnogaeth y preswylwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn y digwyddiad.
"Efallai y bydd cymunedau lleol yn sylwi ar bresenoldeb cynyddol yr heddlu wrth i’n hymchwiliad barhau.”