Aberfan: 60 mlynedd ers y trychineb a laddodd 144 o bobl
Aberfan: 60 mlynedd ers y trychineb a laddodd 144 o bobl
Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal ddydd Mercher i gofio am y 144 o bobl a fu farw yn nhrychineb Aberfan union 60 mlynedd yn ôl.
Fe fydd aelodau o'r Teulu Brenhinol yn ymweld â phentref Aberfan i ymuno â goroeswyr, rhieni a gollodd eu plant, ac aelodau o'r gymuned i roi teyrnged i'r rheini a gollodd eu bywydau pan lithrodd tomen lo i lawr y mynydd a tharo Ysgol Gynradd Pantglas ar 21 Hydref 1966.
Bydd y Brenin Charles III, y Frenhines Camilla a'r Tywysog William yn ymweld â Gardd Goffa Aberfan a Chanolfan Gymunedol Aberfan, ac fe fydd William yn ddiweddarach yn ymweld â'r ysgol gynradd i ddadorchuddio'r Goeden Goffa newydd.
Yn gynharach yr wythnos hon fe aeth y Prif Weinidog Andy Burnham i ymweld ag Aberfan gan ddweud ei bod yn "bwysig iawn" nodi arwyddocâd y 60 mlynedd.
Mewn sgwrs â darlledwyr, dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi mynd yno i "gydnabod y gymuned" ac i "ddiolch iddyn nhw am fod yn gefn i'w gilydd".
“Mae'n 60 mlynedd ers i'r un o'r trasiediau mwyaf erchyll yn hanes y DU. Colli'r holl blant hynny. Fe soniodd fy mam a nhad wrthai am hynny pan roeddwn yn blentyn," meddai.
"Mae cryfder y gymuned yn rhywbeth gweladwy ac yn rhywbeth y medrwch ei deimlo."
Munud o dawelwch
Fe fydd munud o dawelwch am 9.15am, i nodi’r amser pan darodd y drychineb 60 mlynedd yn ôl.
Yn arwain y digwyddiad hwnnw fydd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth, a fydd yn bresennol yn y digwyddiad swyddogol i gofio yn Aberfan yng nghwmni y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams AS, Ymddiriedolwyr Aberfan a chynrychiolwyr eraill o’r gymuned.
Mewn datganiad, dywedodd Mr ap Iorwerth: “Ddegawdau yn ddiweddarach, mae effaith trychineb Aberfan yr un mor bwerus. Cafodd y gymuned ei dinistrio gan yr hyn ddigwyddodd ar 21 Hydref 1966.
“Mae effaith y drychineb yn amlwg mewn gerddi coffa ar hyd a lled Cymru, nid yn Aberfan yn unig.
"Wrth nodi 60 mlynedd ers y drychineb, bydd gan Gymru gyfle i dalu teyrnged i’r rheini a gollodd eu bywydau. Rwy’n gwahodd sefydliadau ledled Cymru i ystyried cynnal munud o dawelwch am 9.15am i gofio am yr hyn ddigwyddodd chwe deg mlynedd yn ôl, ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn briodol iddyn nhw.” meddai.
'Wedi siapio ni'
Mae ysgol Gyfun Rhydywaun, yn gwasanaethu ardal Merthyr a Chwm Cynon, sy'n cynnwys Aberfan.
I ddisgyblion y chweched sydd â chysylltiad ag Aberfan mae'n bwysig cofio'r drychineb ddydd Mercher.
Roedd aelodau teulu Allanna yn ddisgyblion yn Ysgol Pantglas.
"Oedd chwaer tad-cu wedi marw, oedd hi'n tua wyth oed dwi'n meddwl. Roedd e'n ddiwrnod arferol," meddai.
"Roedd tad-cu yn cofio'r dydd i gyd achos oedd e'n sal, ac oedd e wedi mynd yno a gweld popeth, ac oedd e wedi rhedeg adre yn ofnus."
"Mae angen i ni gofio'r pethau yma," meddai disgybl arall, Elis.
"Mae wedi siapio ni fel y bobl rydyn ni heddiw."
Mae Cadi yn pwysleisio'r hyn wnaeth pobl Aberfan i godi'r gymuned ar ôl y digwyddiad.
"Mae'r gwaith maen nhw wedi gwneud i dyfu fe nôl lan yn arbennig, ac mae pawb angen deall beth oedd wedi digwydd," meddai.
Yn ôl Nellie, mae angen addysgu pobl ifanc yn fwy: "Mae llawer o blant oedran ni sy' dal ddim yn gwybod... neu'n deall beth oedd wedi digwydd.
"Mae'n drychineb allai fod wedi digwydd i unrhyw un ohonon ni. Mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn deall pa mor ofnadwy oedd e."
