Achos Neil Foden: Trefniadau cenedlaethol newydd i amddiffyn plant yn 'destun pryder'
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud ei fod yn "destun pryder" nad yw trefniadau cenedlaethol newydd i amddiffyn plant yn dilyn un o argymhellion adolygiad i achos Neil Foden yn llawn.
Roedd yr adolygiad i’r troseddau wedi argymell y dylai penderfyniad am ddechrau proses ddiogelu ffurfiol gael ei wneud mewn cyfarfod yn cynnwys sawl asiantaeth, ac nid gan un swyddog yn unig.
Ond mae’r gweithdrefnau cenedlaethol newydd yn parhau i roi’r cyfrifoldeb am y penderfyniad hwnnw i un swyddog diogelu dynodedig yn yr awdurdod lleol.
Mewn adroddiad cynnydd a fydd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y cyngor ddydd Iau, mae Cyngor Gwynedd yn dweud bod “anghysondebau” rhwng y gweithdrefnau cenedlaethol newydd ac argymhellion yr adolygiad.
Wrth ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod i Newyddion S4C nad yw’r trefniadau cenedlaethol newydd wedi cynnwys yr argymhelliad a wnaed gan adolygiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn llawn.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar 1 Gorffennaf 2024 ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Cafodd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru i edrych ar y methiannau diogelu yn yr achos.
Roedd argymhelliad 12 yr adolygiad, dan gadeiryddiaeth Jan Pickles OBE, yn ymwneud â phwy ddylai benderfynu dechrau proses ddiogelu ffurfiol.
Pwy sy’n gwneud y penderfyniad?
Roedd argymhelliad 12 yr adolygiad yn dweud y dylai’r penderfyniad ynghylch a yw pryder yn ddigon difrifol i ddechrau’r broses ffurfiol gael ei wneud mewn cyfarfod amlasiantaeth.
Ar ôl cyhoeddi’r adolygiad, fe gafodd Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru ei diwygio dros yr haf, gyda’r fersiwn newydd ar gael o 1 Gorffennaf 2026.
Mae Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn nodi sut y dylid ymateb i honiadau neu bryderon am bobl sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion sy’n wynebu risg.
Mae’r gweithdrefnau newydd yn darparu ar gyfer trafodaethau gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill lle bo’n briodol.
Ond o dan y gweithdrefnau hynny, y swyddog diogelu dynodedig sy’n parhau i fod yn gyfrifol am y penderfyniad cychwynnol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen.
Mae atodiad i adroddiad cynnydd Cyngor Gwynedd yn dweud fod hyn yn "destun pryder i'r Cyngor" a'i fod wedi mynd ymhellach na’r trefniadau cenedlaethol yn lleol, gan sicrhau nad yw penderfyniadau’n cael eu gwneud gan un swyddog yn unig.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Newyddion S4C, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Bwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru wedi ystyried yr argymhelliad wrth ddiwygio Adran 5.
Ond er dweud eu bod nhw’n ymwybodol o’r pryderon, fe gadarnhaodd y llywodraeth nad yw'r gweithdrefnau diwygiedig yn Adran 5 yn mabwysiadu'r argymhelliad yn llawn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd na ddylai gwaith ar lefel genedlaethol gael ei ddefnyddio fel rheswm i oedi gwelliannau lleol.
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder yn adlewyrchu cryfder y rhai a gyfrannodd at yr Adolygiad ac rydyn ni'n cydnabod pa mor arwyddocaol yw nodi blwyddyn ers cyhoeddi'r adroddiad.
“Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i gyflawni canlyniadau'r Adolygiad ac mae cynnydd yn cael ei wneud o ran sicrhau bod y canfyddiadau'n cryfhau ac yn gwella trefniadau diogelu ym maes addysg ledled Cymru.”
Dywedodd y Llywodraeth hefyd y bydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn yn dechrau adolygiad ar y cyd ym mis Ionawr 2027 o’r ffordd mae gweithdrefnau newydd Adran 5 yn cael eu gweithredu ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Yn ôl y Llywodraeth, bydd hynny’n helpu i asesu sut mae’r trefniadau’n gweithio ac a oes angen rhagor o welliannau.
Mesur effaith y newidiadau
Dywedodd Cyngor Gwynedd yn ei adroddiad cynnydd fod 43 o’r 55 maes gwaith yn ei gynllun ymateb wedi eu cwblhau neu wedi dod yn rhan o waith parhaus ei wasanaethau.
Mae disgwyl cwblhau pedwar arall cyn y Nadolig. Mae’r wyth sy’n weddill yn cael eu disgrifio fel rhai sydd heb eu cyflawni neu sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor.
Ond mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod nad yw trefniadau ffurfiol i fesur effaith y newidiadau dros amser wedi eu sefydlu’n llawn eto.
“Gan nad yw llawer o’r pethau sydd wedi eu cyflawni hyd yma wedi bod ar waith ers amser hir, mae angen eu gweithredu am gyfnod cyn y gellir mesur a ydynt yn wirioneddol effeithiol ai peidio,” meddai’r adroddiad.
Mae’r cyngor yn dweud y bydd y gwaith i newid diwylliant y sefydliad a sicrhau bod gwelliannau’n para yn parhau dros y blynyddoedd nesaf.
