Dyn 33 oed o Ynys Môn o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad

Llys Caernarfon

Mae dyn 33 oed o Ynys Môn wedi ymddangos o flaen Llys y Goron ddydd Mercher wedi ei gyhuddo o lofruddio ei dad.

Mae Martin Ward, o Ffordd yr Hen Bost, Caergybi, wedi ei gyhuddo o ladd Michael Ward ddydd Sadwrn yn Llys Watling, yn yr un dref.

Mae dyddiad arfaethedig ar gyfer yr achos llys wedi ei osod ar 5 Ebrill.

Fe gafodd Martin Ward ei gadw yn y ddalfa gan y Barnwr Geraint Walters nes gwrandawiad nesaf ar 25 Ionawr.

Mae teulu Michael Ward, 53 oed, wedi rhoi teyrnged iddo: “Roedd ein tad yn ddyn cariadus gyda chalon fawr.

“Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.