Ail Eisteddfod T yn dechrau yn Llangrannog
Fe fydd Eisteddfod T yn cael ei chynnal yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog eleni.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor y Sulgwyn – o ddydd Llun, 31 Mai i ddydd Gwener, 4 Mehefin.
Yn 2020, cafodd Eisteddfod T ei darlledu o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, gyda’r Urdd yn “addo gŵyl ddigidol fwy arloesol fyth” eleni.
Mae’r Urdd wedi cadarnhau y bydd prif seremonïau’r ŵyl yn cael eu cynnal ar leoliad yng ngwersyll Llangrannog, Ceredigion, gan ddilyn canllawiau Covid-19.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi cadarnhau bod perfformiadau rhai unigolion wedi cael eu hail-recordio mewn stiwdios darlledu.
Yn ôl yr Urdd, mae 12,000 wedi cystadlu yn yr eisteddfod eleni – sy’n ddwbl niferoedd llynedd.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “O Fôn i Fynwy ac o Drelew i Dubai, mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol.
“Mi ydan ni fel trefnwyr mor falch mai Gwersyll yr Urdd Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T eleni.
“Mae’r ganolfan yn lleoliad eiconig yng Nghymru, a gwerth cenedlaethau o atgofion melys yn perthyn i’r lle. Bydd medru cynnal prif seremonïau’r ŵyl yno yn fonws, hefyd.”