Newyddion S4C

‘Adferiad economaidd’ yn ganolog i ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol

07/04/2021
Jane Dodds y Democratiaid Rhyddfrydol

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi lansio eu hymgyrch etholiadol ar gyfer Senedd Cymru ddydd Mercher, gan ddweud fod adferiad economaidd ac amgylcheddol yn ganolog i’w hymgyrch.

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru mai’r bwriad oedd gwario £1bn y flwyddyn ar yr argyfwng amgylcheddol, adeiladu 30,000 o dai cymdeithasol newydd a buddsoddi £500m ar drefi a dinasoedd y wlad petai’r blaid mewn grym.

Dywedodd: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd, mae bywyd fel yr ydym yn ei adnabod wedi newid ond rwy’n gwybod fod Cymru’n wlad wydn ac mae gennym gyfle i adeiladu dyfodol gwell i’n plant ac i blant ein plant.

“Y Blaid Ryddfrydol Gymreig yw’r unig blaid sydd yn addo rhoi blaenoriaeth i adferiad y wlad. Byddwn yn sicrhau adferiad economaidd, amgylcheddol ac adferiad yn ein gwasanaethau iechyd meddwl hefyd.”

Mae’r etholiad ar gyfer Senedd Cymru yn cael ei chynnal ar 6 Mai.

Ymysg yr addewidion eraill mae’r blaid yn ei gynnig mae rhewi trethi busnes am bum mlynedd a newid i system “decach a mwy cefnogol” i fusnesau.

Ychwanegodd Jane Dodds: “Fe fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu her enfawr gyda’r problemau oedd eisoes yn bodoli yn ein gwlad ac sydd wedi gwaethygu o achos Covid.

“Gyda pholisïau uchelgeisiol yn amrywio o adeiladu 30,000 o gartrefi newydd i fuddsoddi yn ein trefi a rhewi cyfraddau busnes sy’n llethu cymaint o fusnesau bach a chanolig eu maint, mae democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cyflwyno opsiynau radical ond realistig ar gyfer dyfodol Cymru."

Mae’r prif bleidiau eraill wedi lansio eu manifestos yn barod ac mae modd darllen mwy amdanynt yma:

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.