Etholiad 2021: Y Blaid Werdd i gyhoeddi ei maniffesto
Fe fydd Plaid Werdd Cymru yn lansio ei maniffesto yn ddiweddarach ddydd Mawrth, gyda’r addewid o “ddiogelu dyfodol Cymru”.
Dywed y blaid y byddai’n adeiladu 12,000 o dai fforddiadwy, cynnal model cymunedol ar gyfer gofal iechyd a chreu “degau o filoedd o swyddi gwyrdd.”
Fe fydd yr etholiad ar gyfer Senedd Cymru yn cael ei chynnal ar 6 Mai.
Ymysg deg o addewidion yn y maniffesto mae creu Cronfa Drawsnewid Werdd er mwyn sefydlu swyddi newydd, mynd i’r afael â diweithdra ymysg yr ifanc, a chynnig mynediad ehangach i addysg bellach.
Byddai’r blaid hefyd yn creu Cronfa drawsnewid Werdd er mwyn cefnogi cynlluniau ynni adnewyddol, a gwella trafnidiaeth gynaliadwy.
Ymysg yr addewidion eraill mae cynnal defnydd a dyfodol i’r Gymraeg a chefnogi’r egwyddor o annibyniaeth i Gymru.
Wrth siarad cyn y lansiad yng Nghasnewydd, dywedodd arweinydd y blaid, Anthony Slaughter fod “dim ond angen edrych ar ddylanwad y blaid yn yr Alban i weld y gwahaniaeth y gall y Gwyrddion ei wneud mewn senedd.
“Mae ein maniffesto yn cynnig cynllun beiddgar ond un y gallwn ei gyflawni, i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi pawb sydd yn byw yng Nghymru, tra’n diogelu ein planed yr un pryd.”