Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu maniffesto
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd ddydd Llun, gyda’r addewid o “Warant Ceidwadol Cymreig”.
Ddydd Sul, fe gyhoeddodd y Torïaid gyfres o bolisïau tai gyda’r gobaith o sicrhau fod bod yn berchen ar dŷ yn “realiti i deuluoedd ledled Cymru”.
Mae’r “Gwarant Ceidwadol Cymreig” yn cynnwys rhewi treth y gyngor am o leiaf dwy flynedd, adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ac uwchraddio’r A55 a’r A40.
Mae addewidion eraill y gwarant yn cynnwys ysbytai newydd a chyllid ychwanegol i’r GIG, yn ogystal â mwy o fuddsoddiad mewn addysg, gan gynnwys 5,000 yn fwy o athrawon.
Creu cyfleoedd newydd
Ysgrifennodd Arweinydd y Grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies, ar Twitter, “Byddwn yn sicrhau y gall teuluoedd, gweithwyr a busnesau Cymru fownsio’n ôl wedi’r pandemig, drwy greu cyfleoedd newydd a sicrhau buddsoddiad yn ein seilwaith a’n gwasanaethau cyhoeddus”.
Lansiodd y blaid yng Nghymru eu hymgyrch yn swyddogol mewn cynhadledd rithiol ddydd Llun.
- Plaid Cymru yn lansio ei maniffesto etholiadol
- Y Democratiaid Rhyddfrydol yn lansio ei hymgyrch
- Llafur Cymru i lansio ei maniffesto etholiadol
- Y Blaid Werdd i gyhoeddi ei maniffesto