Ymchwil newydd yn honni fod Dylan Thomas wedi 'dwyn' gwaith gan feirdd eraill sawl tro
Mae ymchwil newydd yn honni fod y bardd byd-enwog Dylan Thomas wedi dwyn llinellau o gerddi pobl eraill, gan eu cyflwyno fel gwaith ei hun sawl tro pan oedd yn ddisgybl ysgol.
Fe wnaeth y Cymro, sy'n adnabyddus ar draws y byd am ei farddoniaeth, lên-ladrata gwaith gan awduron a beirdd eraill dros gyfnod o bedair blynedd, yn ôl ymchwil gan y cyfieithydd a chyhoeddwr o’r Eidal, Alessandro Gallenzi.
Mae Gallenzi, sydd yn dweud ei bod yn “edmygwr mawr o Thomas a’i farddoniaeth”, wedi canfod o leiaf 12 o gerddi sydd wedi “dwyn” geiriau a llinellau o gerddi eraill.
Cafodd y cerddi gan Thomas eu cyhoeddi yng nghylchgrawn Ysgol Ramadeg Abertawe a’r papur newydd lleol, The Herald of Wales, tra roedd Thomas yn ddisgybl yn yr ysgol.
Mae’r cerddi dan sylw wedi’u hamlygu fel rhan o ymchwil a gyhoeddwyd yn y Times Literary Supplement (TLS).
Dywedodd Gallenzi bod Thomas wedi cyflawni “cyfres o ladradau digywilydd yn ymestyn dros gyfnod o bedair blynedd.”
“Nid tynnu ysbrydoliaeth, neu efelychu neu greu parodi o destunau eraill oedd Thomas, ond fel y dywedodd ei hun yn ddiweddarach: roedd wedi dwyn gwaith awduron eraill yn llwyr, gan newid y teitl neu ychydig o eiriau weithiau, efallai er mwyn osgoi cael ei ddarganfod.”
Ychwanegodd Gallenzi y bydd y dystiolaeth newydd yn “newid ein dealltwriaeth o flynyddoedd cynnar Dylan Thomas”.