Newyddion S4C

Plaid Cymru yn addo refferendwm ar annibyniaeth

07/04/2021
Adam Price

Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi lansio maniffesto’r blaid ddydd Mercher, gan ei ddisgrifio fel “y rhaglen fwyaf radical uchelgeisiol a thrawsnewidiol a gynigir gan unrhyw blaid mewn unrhyw etholiad yng Nghymru er 1945.”

Dywedodd Adam Price y bydd y “polisïau ymarferol, y gellir eu cyflawni a sydd wedi eu costio’n llawn” yn canolbwyntio ar bum maes allweddol.

Ymysg yr addewidion manifesto gafodd eu cyhoeddi mae:

• Llwybr i lwyddiant, gan gynnwys Bargen Werdd Cymru greu hyd at 60,000 o swyddi newydd, gwarant swyddi ieuenctid i bobl ifanc 16-24 oed, benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ar ôl Covid a chreu Ffyniant Cymru

• Cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cymorth ychwanegol, a darparu gofal plant am ddim o 24 mis.

• ‘Bargen deg i deuluoedd’ trwy dorri bil treth y cyngor ar gyfartaledd, cyflwyno taliad wythnosol i blant yn codi i £35 yr wythnos, a darparu 50,000 o gartrefi cymdeithasol a fforddiadwy.

• Gwasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol di-dor sy'n darparu gofal cymdeithasol - am ddim yn ol yr angen, yn hyfforddi ac yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig ac yn gwarantu isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.

• Gwynebu'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth trwy osod Cenhadaeth Cymru 2035 i ddatgarboneiddio, sefydlu Ynni Cymru gyda'r nod o gynhyrchu 100% o drydan yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a chyflwyno Deddf Natur yn statudol yn ogystal a targedau i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.

'Dau fydysawd gwahanol'

Wrth adnewyddu addewid y blaid i gynnal refferendwm annibyniaeth erbyn diwedd tymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, dywedodd Adam Price bod “Cymru a San Steffan yn fwy na dau fydysawd gwahanol.”

Dywedodd Mr Price cyn y lansiad: “Am y tro cyntaf mewn etholiad Senedd bydd pobl Cymru yn gallu pleidleisio i gymryd eu dyfodol eu hunain i’w dwylo eu hunain. Credwn mai annibyniaeth yw'r unig ffordd pendant a chynaliadwy o gyflawni cynnydd cymdeithasol ac economaidd. Felly, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn grymuso pobl Cymru i benderfynu dyfodol ein cenedl mewn refferendwm annibyniaeth.

“Nid ni yw’r wlad y dylem fod. Nid ni yw'r wlad y gallwn fod. Ac nid ni yw'r wlad rydyn ni am fod.

“Mae gan Gymru botensial anhygoel fel cenedl. Nid yw'r problemau yr ydym wedi'u cael ers cenedlaethau yn anochel. Gallwn ddatrys y problemau hyn, gyda'n gilydd. Ond y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth newydd sydd â’r uchelgais i adeiladu Cymru newydd sy’n well na’r hen.”

Fe fydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar 6 Mai.

Mae'r prif bleidiau eraill wedi cyhoeddi eu maniffestos ac mae modd darllen mwy amdanynt yma.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.