Newyddion S4C

Llafur Cymru i lansio eu maniffesto etholiadol

Mark Drakeford, Arweinydd Llafur Cymru

Fe fydd Llafur Cymru’n lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd yn ddiweddarach dydd Iau, gyda chwe addewid yn cynnwys addysg a swyddi i bobl ifanc.

Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi manylion y maniffesto mewn anerchiad arlein, fydd yn addo “gosod platfform i symud Cymru ymlaen i’r dyfodol gyda hyder a gobaith.”

Ymhlith prif amcanion y maniffesto, mae disgwyl i’r blaid gynnig “gwarant pobl ifanc” fyddai’n sicrhau lle mewn addysg, hyfforddiant neu swydd hunangyflogedig.

Fe fyddai’r gwarant yn sicrhau cyfleoedd i bawb o dan 25 oed, ac yn cynnwys 125,000 o brentisiaethau newydd medd Llafur Cymru.

Chwe addewid allweddol

Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Mark Drakeford: “Byddwn yn nodi chwe addewid allweddol a fydd yn sylfaen i’n maniffesto a’n cynllun i ddal i symud Cymru ymlaen.

“Addewidion clir wedi eu costio fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Bydd y blaid hefyd yn lansio ei hymgyrch ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd yn cael eu cynnal yr un diwrnod ag etholiad y Senedd, ar 6 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.