Newyddion S4C

Plaid Cymru yn lansio ei hymgyrch etholiadol

Plaid Cymru

Mae Plaid Cymru wedi lansio ei hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd ddydd Gwener, gydag adferiad economaidd gwyrdd a mwy o dai cymdeithasol ymhlith eu haddewidion.

Amlinellodd arweinydd y blaid Adam Price gyfres o bolisïau sy’n addo ‘trechu anghydraddoldeb’ yng Nghymru.

Mae maniffesto'r blaid yn addo mynd i’r afael â hyn drwy greu 50,000 o gartrefi cymdeithasol, rhoi prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, a chreu 60,000 o swyddi newydd trwy 'Ysgogiad Economaidd Gwyrdd'.

'Nôl ar y trywydd iawn'

Wrth siarad cyn y lansiad dywedodd Adam Price: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu y gyd-ddibyniaeth rhwng ein heconomi a gwasanaethau cyhoeddus.

“Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu her enfawr wrth fynd i’r afael â diweithdra, cefnogi busnesau, a chael ein hysgolion a’r gwasanaeth iechyd yn ôl ar y trywydd iawn.”

Cafodd yr ymgyrch ei lansio'n swyddogol ym Mae Caerdydd fore dydd Gwener, gyda'r etholiad yn cael ei chynnal ar 6 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.