Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n ddydd Llun, 20 Rhagfyr, a dyma olwg ar rai o brif straeon y bore.
Mark Drakeford i gwrdd â gweinidogion i drafod cyfyngiadau Covid-19 pellach.
Bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â gweinidogion Llywodraeth Cymru ddydd Llun i drafod rhagor o gyfyngiadau Covid-19. Ddydd Gwener cadarnhawyd y bydd clybiau nos yn cau o ddydd Llun, 27 Rhagfyr, tra bod rhagor o fesurau yn cael eu cyflwyno i fusnesau, megis y rheol dwy fetr a systemau unffordd. Mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud fod rhagor o gyfyngiadau i’r sector lletygarwch yn bosib ar ôl y Nadolig, ond nid yw'r rhain wedi eu cyhoeddi eto.
‘Cig wedi ei ddatblygu mewn labordy yn gyfle nid bygythiad i ffermwyr’
Mae cwmni sy’n tyfu cig mewn labordy yn dweud bod y dechnoleg a’r wyddoniaeth ddim yn fygythiad i’r diwydiant ond yn gyfle da i ffermwyr Cymru addasu a helpu’r blaned. Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd awgrymu y dylai’r cyhoedd leihau faint o gig a chynnyrch llaeth maen nhw’n ei fwyta.
Downing Street yn amddiffyn llun o Boris Johnson mewn digwyddiad yn ystod y cyfnod clo
Mae Boris Johnson yn wynebu beirniadaeth unwaith eto ar ôl i lun ddod i'r amlwg ohono ef a rhai o weithwyr Downing Street wedi ymgasglu mewn digwyddiad ym mis Mai 2020 pan roedd cyfyngiadau Covid-19 mewn lle. Mewn llun sydd wedi ei gyhoeddi gan The Guardian, gellir gweld y Prif Weinidog, ei wraig Carrie, a rhai o weithwyr yn yfed gwin a bwyta caws yng ngardd Downing Street yn ystod cyfnod clo cyntaf 2020.
Buddsoddi £1.8bn i fynd i'r afael â newid hinsawdd yng Nghymru
Mae £1.8 biliwn wedi ei glustnodi dros y tair blynedd nesaf i fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd a lleihau'r risg oddiwrth hen domenni glo. Mewn cyhoeddiad ddydd Llun, dywedodd Llywodraeth Cymru bydd £160 miliwn o refeniw hefyd ar gael ar gyfer prosiectau gwyrdd.
Covid-19: £270m yn ychwanegol i Gymru yn dilyn beirniadaeth o'r Trysorlys
Bydd Cymru yn derbyn £270 miliwn yn ychwanegol gan drysorlys y DU i ymladd Covid-19 yn dilyn beirniadaeth gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Cyhoeddodd canghellor trysorlys y DU Rishi Sunak y newyddion wrth i gynrychiolwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfarfod gyda gweinidog swyddfa’r cabinet, Stephen Barclay.
'Bydd gwaddol Penri Jones gyda ni am ganrifoedd'
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-athro a'r awdur poblogaidd Penri Jones, sydd wedi marw yn 78 oed. Bu farw fore dydd Sul wedi salwch byr. Mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r nofelau poblogaidd 'Dan Leuad Llŷn' a 'Jabas'.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.