Newyddion S4C

'Bydd gwaddol Penri Jones gyda ni am ganrifoedd'

19/12/2021
jabas

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-athro a'r awdur poblogaidd Penri Jones, sydd wedi marw yn 78 oed.

Bu farw fore dydd Sul wedi salwch byr.

Mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r nofelau poblogaidd 'Dan Leuad Llŷn' a 'Jabas'.

Cafodd ei nofelau am y cymeriad Jabas eu haddasu'n gyfres deledu boblogaidd yn 1988.

Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd a golygydd cylchgrawn Lol.

Yn enedigol o Lŷn, bu'n gynghorydd sir dros Lanbedrog ar Gyngor Gwynedd am flynyddoedd.

Image
Penri Jones
Mae Penri Jones wedi ei ddisgrifio fel athro a gwleidydd "uchel ei barch". 

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts ei fod yn “athro Cymraeg a gwleidydd lleol uchel ei barch.

“Bydd gwaddol Penri Jones gyda ni am ganrifoedd, mae’n ddyn wnaeth wahaniaeth gyda’i fywyd.”

“Roedd Penri hefyd yn gynrychiolydd undeb ar gyfer undeb athrawon, UCAC. Ar ei gais yntau ymunais ag UCAC, gan ddod yn gynrychiolydd undeb ar ei ôl, ac oherwydd ei anogaeth sefais fel cynghorydd sir yn 2004.

“Heb ei gefnogaeth, ni fyddwn erioed wedi mentro i wleidyddiaeth. Mae arnaf ddyled bersonol sylweddol iddo.

“Pob cydymdeimlad â Mair a’r teulu a chyfeillion lu Penri.”

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y cyflwynydd Aled Hughes: "Llanbedrog a Llŷn yn dlotach o lawer heno Pentra Jabas = Pentra Penri Jones. Diolch am bob dim Penri."

Llun: Y Lolfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.