Gweinidogion i gwrdd i drafod cyfyngiadau Covid-19 pellach
Bydd y Prif Weinidog yn cwrdd â gweinidogion Llywodraeth Cymru ddydd Llun i drafod rhagor o gyfyngiadau Covid-19.
Ddydd Gwener cadarnhawyd y bydd clybiau nos yn cau o ddydd Llun, 27 Rhagfyr, tra bod rhagor o fesurau yn cael eu cyflwyno i fusnesau, megis y rheol dwy fetr a systemau unffordd.
Mae Mark Drakeford eisoes wedi dweud fod rhagor o gyfyngiadau i’r sector lletygarwch yn bosib ar ôl y Nadolig, ond nid yw'r rhain wedi eu cyhoeddi eto.
Ddydd Llun, mae disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi newidiadau i ddigwyddiadau chwaraeon sy’n digwydd dros y Nadolig.
Ymhlith y rhain mae’r gemau darbi rygbi, Grand National Cymru, a gemau pêl-droed ledled y wlad.
Bydd Uwch gynghrair pêl-droed Lloegr yn cwrdd hefyd ar ôl i chwech o gemau gael eu gohirio oherwydd Covid-19 dros y penwythnos.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mr Drakeford fod cyfyngiadau ar ôl y Nadolig yn debygol.
"Ar ôl y Nadolig bydd yn rhaid i ni baratoi am rywbeth newydd a rhywbeth anodd i ni, achos gyda Omicron pan mae'n dod i Gymru ni'n gwybod mae'n lledaenu mor gyflym so dyna pam ni'n paratoi."
Ychwanegodd y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ddydd Llun o ran digwyddiadau chwaraeon, ac y bydd yn rhaid iddynt "feddwl am y diwydiant lletygarwch".
"Ni ishe gweld y diwydiant lletygarwch yn ailagor ar ôl y Nadolig," meddai.
"Ond ni'n mynd i drefnu gyda'r sector ac yn fewnol i weld os bydd yn rhaid rhoi mwy o bethau yn eu lle i warchod pobl sy'n gweithio yn y sector 'na."
'Tswnami o achosion'
Mae ymgynghorydd iechyd sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod ‘Tswnami o achosion Omicron yn debygol mewn wythnosau’.
Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru ein bod ni “wythnos neu ddwy ar ôl yr hyn sydd i’w weld yn Llundain, mwyafrif Lloegr a’r Alban.
"Mae'n rhaid i ni fanteisio ar hynny oherwydd mwya' po'r amddiffyniad trwy frechiad atgyfnerthu, gorau oll,” meddai.
Diweddarwyd dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19:
— Iechyd Cyhoeddus Cymru (@IechydCyhoeddus) December 19, 2021
Cyfrifiadur - https://t.co/2muolAqkqr
Mobile - https://t.co/A65oxySxhi
Attach the image, and schedule the post to publish at 12:00. pic.twitter.com/F0Kz7GkrnT
Cafodd 3,462 o achosion positif o Covid-19 eu cadarnhau ddydd Llun, gyda’r gyfradd achosion ar gyfartaledd yng Nghymru yn 503.4.
Hyd yn hyn, 272 o achosion positif o’r amrywiolyn Omicron sydd wedi eu cadarnhau, ond mae'n debygol fod y gwir ffigyrau yn llawer uwch.