Newyddion S4C

Omicron: 'Tswnami o achosion yn debygol' mewn wythnosau

19/12/2021
S4C

Mae ymgynghorydd iechyd sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod ‘Tswnami o achosion Omicron yn debygol mewn wythnosau’.

Wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales dydd Sul, dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru ein bod ni “wythnos neu ddwy ar ôl yr hyn sydd i’w weld yn Llundain, mwyafrif Lloegr a’r Alban.

"Mae'n rhaid i ni fanteisio ar hynny oherwydd mwya' po'r amddiffyniad trwy frechiad atgyfnerthu, gorau oll."

Dydd Gwener cyhoeddodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson ei fod yn cynnal cyfarfod brys COBRA dros y penwythnos yn dilyn trafodaethau gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Mr Johnson ei fod yn bwysig fod cenhedloedd a rhanbarthau’r DU yn “gweithio gyda’i gilydd” i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Omicron yn lledaenu yng Nghymru

Daw'r sylwadau hyn wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatgan bod nifer achosion Omicron yn cynyddu yng Nghymru.

Dydd Sul, cyhoeddwyd bod 91 achos ychwanegol yn dod a'r cyfanswm yng Nghymru i 272.

Y cyfyngiadau presennol

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru'n wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi pobl ledled Cymru trwy gyfnod y Nadolig, gan gynnwys lleihau ein cysylltiad ag eraill.

Mae’r llywodraeth hefyd yn annog pobl i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, cwrdd yn yr awyr agored os yn bosib, a gadael bwlch o ddiwrnod rhwng digwyddiadau cymdeithasol.

Ond o 27 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd yn cael eu cyflwyno.

Bydd clybiau nos yn cael eu gorfodi i gau, bydd angen cadw rheolau pellhau cymdeithasol mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i amddiffyn cwsmeriaid a staff mewn lleoliadau gwaith.

Cyfyngiadau rhynwgladol

Yr Almaen yw’r wlad ddiweddaraf i wahardd teithwyr o’r DU er mwyn ceisio arafu lledaeniad amrywiolyn Omicron.

Bydd Almaenwyr a phreswylwyr Yr Almaen yn dal i fedru mynd i mewn i’r wlad o’r DU.

Bydd yn rhaid iddyn nhw gael prawf negyddol a bod mewn cwarantin am bythefnos hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael eu brechu.

Mae hyn yn dilyn penderfyniad Yr Iseldiroedd i ddechrau cyfnod clo o ddydd Sul tan 14 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.