Newyddion S4C

Boris Johnson yn galw cyfarfod COBRA yn dilyn sgwrs gyda Mark Drakeford

18/12/2021
S4C

Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson yn cynnal cyfarfod brys COBRA dros y penwythnos yn dilyn trafodaethau gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Mr Johnson ei fod yn bwysig fod cenhedloedd a rhanbarthau’r DU yn “gweithio gyda’i gilydd” i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Mr Johnson “yn gynharach, mi wnes i drafod gyda Mark Drakeford a’r ymateb parhaus i Covid-19 a phwysigrwydd gweithio gyda’n gilydd.  Bydd cyfarfod COBRA gyda chynrychiolwyr o’r gwledydd datganoledig yn cymryd lle dros y penwythnos”.

COBRA yw cyfarfod gan asiantaethau llywodraeth y DU er mwyn ymateb i argyfwng.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.