Covid-19: £270m yn ychwanegol i Gymru yn dilyn beirniadaeth o'r Trysorlys
Bydd Cymru yn derbyn £270 miliwn yn ychwanegol gan drysorlys y DU i ymladd Covid-19 yn dilyn beirniadaeth gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Cyhoeddodd canghellor trysorlys y DU Rishi Sunak y newyddion wrth i gynrychiolwyr Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfarfod gyda gweinidog swyddfa’r cabinet, Stephen Barclay.
Bydd llywodraeth Yr Alban yn derbyn £440 miliwn yn ychwanegol a Gogledd Iwerddon £150 miliwn.
Dywedodd Rishi Sunak bod yr arian ychwanegol o ganlyniad i'r trafodaethau gyda’r cenhedloedd datganoledig.
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew R.T. Davies, groesawu'r newyddion gan ddweud fod y Ceidwadwyr wedi "camu i'r bwlch drwy gydol y pandemig i gynnig cymorth i deuluoedd, gweithwyr a busnesau" Cymru.
Darllenwch y stori yn llawn yma.