Cig wedi ei ddatblygu mewn labordy yn 'gyfle nid bygythiad' i ffermwyr

Mae cwmni sy’n tyfu cig mewn labordy yn dweud nad yw'r dechnoleg a’r wyddoniaeth ddim yn fygythiad i’r diwydiant, ond yn gyfle da i ffermwyr Cymru addasu a helpu’r blaned.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd awgrymu y dylai’r cyhoedd leihau faint o gig a chynnyrch llaeth maen nhw’n ei fwyta.

Fe wnaeth Illtud Dunsford, o Sir Gaerfyrddin, a’i bartner busnes yr Athro Marianne Ellis ddechrau cwmni, Cellular Agriculture Limited yn 2016. 

Mae’r cwmni yn dylunio technoleg all gynhyrchu protein wedi ei dyfu mewn ffatri.

Eglurodd Mr Dunsford bod cig a dyfir mewn labordy yn cymryd cell gan anifail a bwydo’r gell yn hytrach na’r anifail ei hun. A’r canlyniad yw’r cynnyrch sydd wedi’i greu o’r celloedd.

'Effeithio llai ar y blaned'

Dywedodd wrth Hansh GRID S4C bod yr ysbrydoliaeth i’r fenter tyfu cig mewn labordy wedi dod o’i fusnes blaenorol. 

“Pan ddes i ar draws y dechnoleg hon a chwrdd â fy nghyd-sylfaenydd roedd yn eithaf trawsnewidiol deall bod technoleg ar gael a allai gynhyrchu'r rhan o'r anifail y mae pobl eisiau ei fwyta, ond sy’n cael effaith sylweddol is ar yr amgylchedd.”

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae bron chwarter o allyriadau byd eang nwyon tŷ gwydr yn dod o amaethyddiaeth. Tra mae effaith anifeiliaid ar allyriadau yn amrywio rhwng gwledydd, mae’r CU yn amcangyfrif bod e’n gyfrifol am ragor na 14% o holl nwyon tŷ gwydr byd-eang o ganlyniad i waith dyn, gan gynnwys methan. 

Mae cynllun net sero Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynyddu’r defnydd o ffrwythau a llysiau’n sylweddol, a lleihau cig coch sydd wedi’i brosesu 20% erbyn 2030.

Ydy ffermwyr cig Cymru dan fygythiad?

Yn ôl Mr Dunsford mae cig wedi’i dyfu mewn labordy yn effeithio llai ar y blaned. 

“Y gostyngiadau sylweddol a welwn o gymharu â chigoedd traddodiadol, ac yn enwedig mewn cig eidion yw gostyngiad o 90% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, a 90% mewn defnydd tir, a gostyngiad sylweddol tebyg yn y defnydd o ddŵr hefyd.”

Mae Mr Dunsford, sy’n dod o gefndir ffermio, yn dweud bod y dechnoleg newydd ddim yno i ddisodli amaethyddiaeth bresennol yng Nghymru. 

“O ran y diwydiant hwn, pan ddes i ato roedd gen i'r un amheuon cychwynnol ag y byddai unrhyw un ar gyfer rhywbeth newydd, ond yr hyn a ddeallais oedd bod cyfleoedd posib yn y diwydiant hwn i'r diwydiant amaeth, potensial i gynhyrchu celloedd, fel porthiant diwydiant, cynhyrchu maetholion i fwydo'r celloedd hynny, ond hefyd fanteision ychwanegol y gostyngiad yn nifer dwyster y stoc ar y tir ac mae hynny'n cael yr effaith ychwanegol wedyn ar erydiad pridd, a chynnydd mewn bioamrywiaeth.”

Mae Gerallt Hughes sy’n ffermio tua 200 wartheg a 1200 defaid yn Ynys Môn, yn rhwystredig gyda chynllun y llywodraeth.

Image
S4C
Mae Gerallt Hughes a’i deulu wedi ffermio yn Tŷ Mawr Llan, Ynys Môn ers dros 30 mlynedd. (Credit: Hansh Grid)

“Y neges yr hoffwn ei gweld allan yna ydi i bobl fwyta lai o gig wedi'i brosesu, a'u gweld yn bwyta cig o ansawdd da, cig lleol nad yw wedi teithio'n bell, sydd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy yma yng Nghymru," meddai.

"Dwi’n credu mai dyna'r neges y dylai'r llywodraeth fod yn eu dweud yn hytrach na dweud eu bod am i bobl fwyta lai o gig yn gyffredinol. Yn sicr nid yw'n neges ddefnyddiol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i sector amaethyddol a chadwyn fwyd cynaliadwy, bywiog a llwyddiannus sy'n helpu i danategu'r economi wledig ehangach.

“Rydym am i bobl Cymru gael diet iach a chytbwys gan gynnwys rhywfaint o brotein o gig, pysgod ac wyau, a ffynonellau sy'n seiliedig ar blanhigion fel ffa a chodlysiau. Pan fyddwn yn bwyta cig byddem yn annog pobl i brynu cynnyrch lleol o ansawdd uchel. Mae ein hinsawdd yn fwy addas na llawer o rannau eraill o'r byd i gynhyrchu cig coch cynaliadwy ac o ansawdd uchel ac rydym yn annog pawb i ystyried effeithiau cadarnhaol bwyta bwyd lleol. ”

I ddarganfod beth ddigwyddodd pan gyfarfu Illtud a Gerallt â'i gilydd, gwyliwch Grid yma. (Is-deitlau Saesneg ar gael)