Newyddion S4C

Downing Street yn amddiffyn llun o Boris Johnson mewn digwyddiad yn ystod y cyfnod clo

Sky News 20/12/2021
Boris Johnson - Llun Rhif 10

Mae Boris Johnson yn wynebu beirniadaeth unwaith eto ar ôl i lun ddod i'r amlwg ohono ef a rhai o weithwyr Downing Street wedi ymgasglu mewn digwyddiad ym mis Mai 2020 pan roedd cyfyngiadau Covid-19 mewn lle.

Mewn llun sydd wedi ei gyhoeddi gan The Guardian, gellir gweld y Prif Weinidog, ei wraig Carrie, a rhai o weithwyr yn yfed gwin a bwyta caws yng ngardd Downing Street yn ystod cyfnod clo cyntaf 2020.

Roedd hyn yn ystod y cyfnod lle’r oedd hi’n orfodol i bobl i bellhau’n gymdeithasol ac aros adref.

Roedd ysgolion ar gau ar y pryd, yn ogystal â thafarndai a bwytai, medd Sky News. 

Mae Downing Street wedi mynnu mai “cyfarfod staff” sy’n cael ei weld yn y llun.

Ond nid yw’r blaid Lafur mor siŵr, gyda’r dirprwy arweinydd Angela Rayner yn galw ar y Prif Weinidog i “ddweud y gwir”.

Mae Mr Johnson a'i blaid wedi wynebu cyfres o gyhuddiadau yn ddiweddar sy'n ymwneud â chynnal partïon oedd yn groes i gyfyngiadau Covid-19.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.