Newyddion S4C

Buddsoddi £1.8bn i fynd i'r afael â newid hinsawdd yng Nghymru

20/12/2021
Pwll glo

Mae £1.8 biliwn wedi ei glustnodi dros y tair blynedd nesaf i fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd a lleihau'r risg oddiwrth hen domenni glo.

Mewn cyhoeddiad ddydd Llun, dywedodd Llywodraeth Cymru bydd £160 miliwn o refeniw hefyd ar gael ar gyfer prosiectau gwyrdd.

Bydd yr arian yn cael ei wario mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys y goedwig genedlaethol, bioamrywiaeth, teithio llesol, yr economi gylchol, ynni adnewyddadwy, llifogydd a thai wedi'u datgarboneiddio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd £44.4 miliwn ar gael hefyd i gefnogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar hen domenni glo ac i ddatblygu rhaglen adfer yn y dyfodol.

Llithro

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan Gymru dros 2,500 o domenni glo ers cyn datganoli ac oherwydd effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd, mae'r rhain bellach mewn mwy o berygl o lithro.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Bydd y gyllideb heddiw yn llywio'r Gymru yr ydym am ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Bydd mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn gofyn am ymdrech ar y cyd ac fel Llywodraeth rydym yn gwybod ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithredu ac yn arwain y ffordd.

"Dyna pam rydym yn darparu buddsoddiad sylweddol mewn ystod eang o feysydd, fel y gall Cymru leihau allyriadau a bod yn genedl wyrddach.

"Bydd y gyllideb hon yn golygu bod Cymru mewn gwell lle i reoli effeithiau'r argyfwng hinsawdd a natur sydd eisoes yn effeithio ar gynifer o gymunedau yng Nghymru, a bydd ond yn effeithio ar fwy o gymunedau yn y dyfodol. Allwn ni byth golli golwg ar bwysigrwydd gwarchod ein planed."

Ychwanegodd: “Ym mis Ebrill 2019 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ym mis Hydref eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Cymru Sero Net' - gan osod y sylfeini i wneud Cymru'n net sero erbyn 2050.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.