Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Mae'n fore Gwener, 19 Tachwedd, a dyma olwg ar rai o brif straeon y bore o Gymru a thu hwnt.
‘Mae pob diwrnod yn anodd heb Huw’: Colli gŵr yn sydyn ar ôl priodi
Mae dynes o Wynedd wedi trafod ei phrofiad o golli ei gŵr yn sydyn wythnosau ar ôl i’r ddau briodi.
Priododd Elen Williams, 27, o Benisarwaun, Huw Williams o Lanfaethlu, Ynys Môn ar ddechrau mis Awst.
Covid-19: Cyfyngiadau ar gyfandir Ewrop mewn ymateb i'r bedwaredd don - Sky News
Mae cyfyngiadau Covid-19 yn dychwelyd i sawl gwlad ar draws y byd mewn ymdrech i fynd i'r afael â phedwaredd don o'r feirws.
Gydag Ewrop unwaith eto yn ganolbwynt i'r pandemig, mae'r Almaen, Awstria a Slovakia wedi ail-gyflwyno rhai cyfyngiadau ar drothwy'r Nadolig.
Murlun Banksy i symud o Bort Talbot i Loegr - Wales Online
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cadarnhau y bydd gwaith celf Banksy yn symud o Gymru i gartref newydd yn Lloegr.
Ymddangosodd y gwaith yn gyntaf ar ddiwedd 2018 ar ochr garej yng nghymuned Taibach, Port Talbot.
Ymddygiad rhai cefnogwyr Lloegr 'heb effeithio' ar gais Cwpan y Byd posib
Mae un o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pwysleisio nad yw ymddygiad rhai o gefnogwyr pêl-droed Lloegr yn ystod rownd derfynol Euro 2020 wedi effeithio ar gais posib i groesawu pencampwriaeth Cwpan y Byd.
Mae'r gweinidog chwaraeon Nigel Huddleston wedi pwysleisio fod llywodraethau'r DU ac Iwerddon yn parhau'n awyddus i gyflwyno cais ar y cyd rhwng yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon, Iwerddon a Lloegr i gynnal pencampwriaeth FIFA yn 2030.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.