Murlun Banksy i symud o Bort Talbot i Loegr

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cadarnhau y bydd gwaith celf Banksy yn symud o Gymru i gartref newydd yn Lloegr.
Ymddangosodd y gwaith yn gyntaf ar ddiwedd 2018 ar ochr garej yng nghymuned Taibach, Port Talbot.
Bydd y gwaith celf gan yr arlunydd stryd anhysbys yn symud o'r dref ym mis Ionawr i arddangosfa celf stryd yn Nhrebedr.
Cafodd murlun 'Season's Greetings' ei brynu gan John Brandler - sy'n casglu gwaith Banksy - am swm chwe ffigwr, yn ôl Wales Online.
Darllenwch y stori'n llawn yma.