Newyddion S4C

Covid-19: Cyfyngiadau ar gyfandir Ewrop mewn ymateb i'r bedwaredd don

Sky News 19/11/2021
Mygydau / Covid / Ewrop / Yr Eidal / Pobl

Mae cyfyngiadau Covid-19 yn dychwelyd i sawl gwlad ar draws y byd mewn ymdrech i fynd i'r afael â phedwaredd don o'r feirws.

Gydag Ewrop unwaith eto yn ganolbwynt i'r pandemig, mae'r Almaen, Awstria a Slovakia wedi ail-gyflwyno rhai cyfyngiadau ar drothwy'r Nadolig.

Fe gadarnhaodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ddydd Iau y byddai rheolau ar fywyd cyhoeddus i'r sawl sydd heb gael eu brechu mewn ardaloedd lle mae ysbytai yn llenwi'n gyflym gyda chleifion coronafeirws.

Mae Groeg hefyd wedi cyflwyno mesurau yn benodol ar gyfer unigolion sydd heb eu brechu rhag y feirws - gan gynnwys eu hatal rhag mynychu sinemâu, amgueddfeydd a champfeydd.

Mae Sky News yn adrodd fod Awstria hefyd wedi gweld cyfnod clo tebyg, ond mae dwy o daleithiau'r wlad wedi ymestyn y cyfyngiadau i gynnwys pobl sydd wedi eu brechu hefyd gan gau ysgolion o'r wythnos nesaf.

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.