Newyddion S4C

‘Mae pob diwrnod yn anodd heb Huw’: Colli gŵr yn sydyn ar ôl priodi

19/11/2021

‘Mae pob diwrnod yn anodd heb Huw’: Colli gŵr yn sydyn ar ôl priodi

Mae dynes o Wynedd wedi trafod ei phrofiad o golli ei gŵr yn sydyn wythnosau ar ôl i’r ddau briodi.

Priododd Elen Williams, 27, o Benisarwaun, Huw Williams o Lanfaethlu, Ynys Môn ar ddechrau mis Awst.

Bu farw Mr Williams yn 30 oed ar ddiwedd mis Medi ar ôl dioddef o ganser am gyfnod byr.

Dywedodd Elen Williams wrth Newyddion S4C: “Nes i golli Huw rhyw saith wythnos ar ôl priodi. Oedd o yn sioc. Mae o dal yn sioc i fi ac i bawb. Dwi'm yn meddwl bod ni wedi dod dros y sioc”.

Roedd y ddau wedi bod gyda’i gilydd ers 2014, cyn dyweddïo yn 2018. Cafodd y briodas ei gohirio dair gwaith oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Image
Huw
Bu farw Huw Williams o Lanfaethlu, Ynys Môn ym mis Medi.

Er i’w cyfnod fel pâr priodasol fod yn fyr, mae Elen Williams yn falch ei bod wedi cael y cyfle i briodi.

“Dwi’n proud iawn o fod yn wraig i Huw.

“Oedd pawb yn nabod o fatha un gwirion a hwylus a oedd ganddo fo’r galon fwyaf erioed.

“Dwi yn falch gatho'n ni ddiwrnod priodas ni, rwbath i fi gofio am rest o mywyd. Oedd y ddau o honna ni wedi enjoio fo mor gymaint.

“Ond doedd y ddau o honna ni ddim yn gwybod be oedd yn dod nesa. So dwi yn falch iawn o gael y diwrnod yna. Diwrnod gora’n fywyd i a Huw.

Nid yw Elen yn cydnabod ei hun fel gweddw yn dilyn ei phrofedigaeth, ond yn wraig i Huw.

“Dwi’n clywed lot (o’r gair) ‘widow’ a ballu. Mae o yn anodd cymryd huna oed fi, ond pam ma' rywun yn deud bo fi’n wraig i Huw ma’n deimlad lot gwell.”

Treuliodd Huw Williams ei ddiwrnodau olaf yn Hosbis Dewi Sant, Caergybi lle'r oedd Elen a’i deulu yn gallu ymweld ag ef yn gyson.

Image
x
Huw ac Elen Williams ar ddiwrnod eu priodas.

Bydd Elen Williams yn gwneud taith gerdded i gasglu arian tuag at yr hosbis ar 4 Rhagfyr.

Mae hi’n gobeithio y bydd yr arian y mae’n ei gasglu yn gallu bod o gymorth i deuluoedd eraill sy’n mynd drwy brofiad tebyg.

Mae’r daith hefyd yn ffordd o gofio ac hel atgofion am Huw Williams.

“Mae o jysd yn meddwl lot i fi i godi arian iddyn nhw a neud gwahaniaeth i deulu arall, ma'n digwydd bob dydd, mae o yn wahaniaeth mawr i gael mynd i fa'na i ddeud ta-ra.

“Ma' bob diwrnod yn anodd heb Huw. Oedd 'na bob tro wên ar ei wyneb o, oedda’ chi mond yn gorfod sbïo ar Huw, ac oedd eich diwrnod chi lot gwell.

“Ma'r sponsored walk yma yn gyfla i gofio am Huw a holl memories o honno fo, a rhywbeth i fi gael concentratio arno fo i gael fi trwy'r 'dolig a chofio'r holl betha' gwirion a hwylus oedd o wedi neud.

“Bydd Huw wrth ochr fi trwy'r walk i gyd."meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.