Newyddion S4C

Ymddygiad rhai cefnogwyr Lloegr 'heb effeithio' ar gais Cwpan y Byd posib

Golwg 360 19/11/2021
Cymru v Lloegr - Grealish / Ben Davies - Asiantaeth Huw Evans

Mae un o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi pwysleisio nad yw ymddygiad rhai o gefnogwyr pêl-droed Lloegr yn ystod rownd derfynol Euro 2020 wedi effeithio ar gais posib i groesawu pencampwriaeth Cwpan y Byd.

Mae'r gweinidog chwaraeon Nigel Huddleston wedi pwysleisio fod llywodraethau'r DU ac Iwerddon yn parhau'n awyddus i gyflwyno cais ar y cyd rhwng yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon, Iwerddon a Lloegr i gynnal pencampwriaeth FIFA yn 2030.

Mae disgwyl i geisiadau i gynnal y twrnament agor yn 2022, gyda phenderfyniad terfynol i ddod yn ystod Cyfres FIFA 2024, yn ôl Golwg360.

Dyma fwy ar y stori.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.