Rhybuddion am lifogydd a thrafferthion lleol wrth i law trwm daro Cymru
Mae swyddogion wedi rhybuddio am lifogydd posib o gwmpas afonydd yn y gogledd a'r gorllewin wrth i law trwm a gwyntoedd daro rhannau helaeth o Gymru, gan achosi problemau trafnidiaeth lleol mewn rhai ardaloedd.
Fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rybuddion 'byddwch yn barod' ar gyfer talgylch Ynys Môn i gyd, yn ogystal ag afonydd Glaslyn a Dwyryd yng Ngwynedd, yn ystod prynhawn ddydd Sadwrn.
Yn ôl y rhybuddion, mae "disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel" oherwydd glaw sy'n disgyn yn yr ardaloedd hynny.
Cafodd rhybudd tebyg ei gyhoeddi'n gynharach yn y dydd ar gyfer De Sir Benfro, gyda CNC yn dweud yn ogystal bod disgwyl i lefelau afonydd yn yr ardal hon fod yn uwch na'r arfer.
Roedd adroddiadau yn ystod y dydd bod dŵr yn rhwystro traffig neu yn gwneud amodau gyrru'n anodd mewn rhai mannau.
Dywedodd Heddlu Gwent ddiwedd y prynhawn bod traffig yn cael ei ddargyfeirio achos dŵr ar y ffordd rhwng pentrefan Llechryd yng Nghwm Rhymni a thref Merthyr Tudful.
Roedd adroddiadau yn y wasg am broblemau tebyg ym Mhentrefelin ger Cricieth yng Ngwynedd, ond dywedodd cynghorydd lleol wrth Newyddion S4C nos Sadwrn bod y ffordd yn glir.
Cafodd cyfyngiad cyflymder o 30mya ei gyflwyno ar Bont Britannia, sy'n cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr, nos Sadwrn oherwydd gwyntoedd cryfion yn yr ardal.
'100mm o law' ddechrau'r wythnos
Mae sawl sefydliad wedi rhybuddio am lifogydd posib dros y dyddiau nesaf, gyda CNC yn dweud dydd Gwener bod angen bod "yn wyliadwrus rhag llifogydd y penwythnos hwn," yn enwedig yn y de.
Dydy'r Swyddfa Dywydd, prif gorff hinsawdd y DU, ddim wedi cyhoeddi rhybuddion swyddogol ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul yng Nghymru, ond mae rhybuddion melyn mewn grym ar gyfer dechrau'r wythnos nesaf.
Mae disgwyl cyfnodau o law trwm a pharhaus o ddydd Llun 30 Tachwedd tan ddiwedd dydd Mawrth 1 Rhagfyr, gyda rhwng 30 a 60mm o law yn debygol o ddisgyn, a'r posibilrwydd o dros 100mm yn y mannau gwlypaf.
Gallai'r glaw arwain at lifogydd, meddai'r Swyddfa Dywydd, ac amharu ar drafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r tir eisoes yn wlyb a lle mae dail yn rhwystro systemau draenio.
Mae'r rhybuddion yn berthnasol i rannau o Wynedd, Conwy, Powys, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen.