Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma gipolwg ar rai o brif straeon bore dydd Mercher 17 Tachwedd, o Gymru a thu hwnt.
'Mae 'na hen draddodiad bod yn rhaid i’r hogia fod yn tyff, yn macho yng nghefn gwlad'
Mae teulu a gollodd eu mab yn ddiweddar yn dweud bod rhaid “chwalu stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl” yng nghefn gwlad. Bu farw Twm Bryn o Chwilog, ym mis Hydref eleni, rai dyddiau ar ôl troi’n 21 oed. Y gred yw ei fod wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad.
Lefelau chwyddiant ar eu huchaf ers degawd
Mae ffigurau newydd yn dangos bod lefelau chwyddiant wedi cyrraedd eu huchaf ers degawd. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi neidio i 4.2% ym mis Hydref o 3.1% ym mis Medi. Dywedodd Sky News fod y cynnydd o 1.1% yn "uwch nag oedd economegwyr wedi ei dybio".
Boris Johnson i wynebu cwestiynau ar safonau a thrais yn erbyn menywod
Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn cael ei holi gan Aelodau Seneddol ddydd Mawrth wrth i'r ffrae dros safonau ac ymddygiad Aelodau barhau. Bydd Mr Johnson yn ymddangos o flaen Pwyllgor o gadeiryddion pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin i ateb cwestiynau ynghylch safonau llywodraeth, trais yn erbyn menywod, COP26 a'r Gyllideb.
'Dwi’n fyw, dwi’n anadlu, dyna sy’n bwysig': Rhybudd Covid cynghorydd o Wynedd
Mae cynghorydd o Wynedd fu'n ddifrifol wael gyda Covid-19 yn ddiweddar wedi rhybuddio eraill am bwysigrwydd derbyn brechiadau rhag yr haint. Treuliodd y Cynghorydd Aeron M Jones, sydd yn cynrychioli ward Llanwnda, 11 diwrnod yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael trafferth anadlu wedi iddo brofi’n bositif am Covid-19. Roedd Aeron Jones wedi derbyn dau frechiad Covid-19 cyn iddo gael ei daro'n wael.
Cwpan y Byd 2022: Pwynt hanfodol i Gymru yn erbyn Gwlad Belg
Mae Cymru wedi sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd 2022, yn dilyn gêm gyfartal gyffrous yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd nos Fawrth. Mae’r canlyniad yn golygu y bydd dynion Rob Page yn chwarae'u gemau ail gyfle o flaen cefnogaeth y Wal Goch gyda Chymru nawr ond dwy gêm i ffwrdd o’r gystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf ers 1958.