Newyddion S4C

'Dwi’n fyw, dwi’n anadlu, dyna sy’n bwysig': Rhybudd Covid cynghorydd o Wynedd

16/11/2021

'Dwi’n fyw, dwi’n anadlu, dyna sy’n bwysig': Rhybudd Covid cynghorydd o Wynedd

Mae cynghorydd o Wynedd fu'n ddifrifol wael gyda Covid-19 yn ddiweddar wedi rhybuddio eraill am bwysigrwydd derbyn brechiadau rhag yr haint.

Treuliodd y Cynghorydd Aeron M Jones, sydd yn cynrychioli ward Llanwnda, 11 diwrnod yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael trafferth anadlu wedi iddo brofi’n bositif am Covid-19.

Drwy gyd-ddigwyddiad roedd cynghorydd lleol arall hefyd yn dioddef gyda Covid-19 ac yn derbyn triniaeth ar yr un ward ag o.

Aeth y Cynghorydd Peter Garlick, sydd yn cynrychioli Bontnewydd, yn wael ar 3 Tachwedd cyn cael ei gludo mewn ambiwlans i'r ysbyty am 04:00 y bore chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Roedd y Cynghorydd Garlick yn yr ysbyty am bum niwrnod i gyd, ac mae yntau'n rhybuddio'r cyhoeddi i barhau'n wyliadwrus.

Image
Cynghorwyr
Y cynghorwyr Aeron M Jones a Peter Garlick yn derbyn triniaeth am effeithiau Covid-19 ar yr un ward yn Ysbyty Gwynedd. 

Roedd Aeron Jones wedi derbyn dau frechiad Covid-19 cyn iddo gael ei daro'n wael, ac mae nawr yn galw ar eraill i gael eu brechu'n llawn.

"Dwi wedi cael y ddwy jab ac roeddwn i yn barod i gael y booster pan es i mewn. Cymerwch nhw, achos mae rheina yn achub pobl."

Wrth drafod ei gyfnod o salwch ag effaith Covid-19 arno, dywedodd wrth Newyddion S4C: "O ni wedi bod adra am bump diwrnod a roeddwn i jyst yn gwaethygu bob diwrnod a mi ddaeth hi at y diwrnod diwethaf - o ni methu cael fy ngwynt.

“O’n i yn fy llofft, yn cwffio am wynt. Bu’n rhaid i ni alw ambiwlans i fynd â fi i’r ysbyty."

Achos braw

Roedd profi effeithiau'r feirws ar eu gwaethaf tra'r oedd yn yr ysbyty yn achos braw i'r Cynghorydd Jones.

Dywedodd: “Mi roedd 'na adeg lle do’n i’m yn gallu siarad o gwbwl. Methu rhoi brawddeg at ei gilydd. Ro’n i ar ocsigen a steroids. Ges i fraw bryd hynny.

“Ddaeth ‘na ddau feddyg i mewn i ‘ngweld i un p'nawn a dweud falle byddai’n rhaid rhoi fi mewn i induced coma, ond diolch byth, y noson hynny naeth yr ocsigen a’r steroids ddechrau cael effaith ges i ar y ward.”

Dywedodd Mr Jones ei fod yn dal i deimlo effeithiau Covid er iddo fod adref o’r ysbyty erbyn hyn.

“Dw i yn ymdopi’n oce ers dod allan. O leia dw i’n gallu anadlu. Ond dw i yn mynd allan o wynt yn hawdd iawn, yn dal i beswch. 

“Dw i’n gorwedd yn y stafell fyw. Ma hyd yn oed cerdded i’r gegin yn gwneud fi’n fyr fy ngwynt.

"Dw i’n fyw. Dw i’n anadlu, dyna sy’n bwysig.”

Yn ôl cofnodion diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r raddfa o achosion dros gyfnod o saith diwrnod fesul 100,000 o bobl yng Ngwynedd gyda’r uchaf yng Nghymru.

Y gyfradd yng Ngwynedd yw 604.5 o achosion fesul 100,000 o bobl, ond y cyfartaledd dros Gymru gyfan yw 491.5 i bob 100,000 o’r boblogaeth.

Llun: Aeron M Jones

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.