Lefelau chwyddiant ar eu huchaf ers degawd
17/11/2021
Mae ffigurau newydd yn dangos bod lefelau chwyddiant wedi cyrraedd eu huchaf ers degawd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi neidio i 4.2% ym mis Hydref o 3.1% ym mis Medi.
Dywedodd Sky News fod y cynnydd o 1.1% yn "uwch nag oedd economegwyr wedi ei dybio".
Mae'r ffigurau'n dangos bod y cynnydd o 12% ar y cap pris ynni ar filiau tai o 1 Hydref ymhlith y rhesymau am y lefel chwyddiant, ynghyd ag addysg, trafnidiaeth a chostau ffasiwn.
Darllenwch ragor yma.