Newyddion S4C

Cwpan y Byd 2022: Pwynt hanfodol i Gymru yn erbyn Gwlad Belg

16/11/2021
Rob Page

Mae Cymru wedi sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd 2022, yn dilyn gêm gyfartal gyffrous yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Roedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn sŵn a chyffro cyn y gic gyntaf wrth i dorf lawn ddod i wylio un o'r gemau pwysicaf i Gymru ers tro.

Gwlad Belg ddechreuodd orau ar y noson er gwaethaf absenoldeb sawl seren amlwg fel Romelu Lukaku ac Eden Hazard.

Roedd yn rhaid i Gymru dreulio cyfnodau cynnar o’r gêm heb y bêl, gyda Gwlad Belg yn rheoli’r meddiant am gyfnodau hir.

Daeth ergyd anferth i obeithion Cymru ar ôl i'r ymosodwr dawnus Kevin De Bruyne sgorio gôl gampus i Wlad Belg ar ffin y cwrt cosbi wedi 12 munud.

Parhaodd Gwlad Belg i ddal eu gafael ar y bêl gan orfodi Cymru i weithio’n galed i ennill unrhyw feddiant.

Ond er i’r ymwelwyr barhau i roi'r dynion mewn coch dan bwysau dwys, llwyddodd Kieffer Moore i fanteisio ar eu hamddiffyn blêr a dod a'r gêm yn gyfartal 1-1 cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Diolch i chwarae egniol a medrus Daniel James ar yr asgell, yn plethu'r bêl heibio i amddiffynwyr Gwlad Belg yn y cwrt cosbi, a'i hanelu at droed Moore cyn iddo droi a sgorio, fe godwyd gobeithion y Cymry unwaith eto.

Bu’n rhaid i Gymru wrthsefyll pwysau dwys unwaith eto i osgoi ildio cyn yr egwyl, gyda Thorgan Hazard yn taro’r post gydag ergyd wych bum munud cyn hanner amser.

Ail hanner campus

Yn yr ail hanner, Cymru oedd y tîm gorau wrth i'r ymosodwyr Moore, Aarons Ramsey a Dan James weithio'n galed i roi Gwlad Belg dan bwysau.

Roedd yr amddiffyn yn gadarn hefyd yn erbyn bygythiadau Gwlad Belg dan arweiniad Joe Rodon a Ben Davies.

Image
Joe Allen

Aeth Neco Williams yn agos i sgorio gôl fyddai wedi cadarnhau canlyniad hanesyddol, ond cafodd ei wrthod gan y gôl-geidwad Koen Casteels.

Cafodd chwe munud ei ychwanegu am anafiadau wedi i'r 90 munud ddod i ben, a gyda phob eiliad roedd calonnau’r Cymry yn cyflymu.

Llwyddodd Cymru i wrthsefyll ymdrechion hwyr Gwlad Belg i ennill y gêm, cyn i'r canlyniad tyngedfennol gael ei sicrhau, ac roedd rhuo’r cefnogwyr yn atseinio ar draws Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r canlyniad yn golygu y bydd dynion Rob Page yn chwarae'u gemau ail gyfle o flaen cefnogaeth y Wal Goch gyda Chymru nawr ond dwy gêm i ffwrdd o’r gystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf ers 1958.

Fe fydd naill ai Gogledd Macedonia, Wcráin, Gwlad Pwyl neu Twrci yn teithio i Gymru ym mis Mawrth 2022 ar gyfer y gêm ail gyfle gyntaf. 

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.