Newyddion S4C

'Mae 'na hen draddodiad bod yn rhaid i’r hogia fod yn tyff, yn macho yng nghefn gwlad'

ITV Cymru 17/11/2021

'Mae 'na hen draddodiad bod yn rhaid i’r hogia fod yn tyff, yn macho yng nghefn gwlad'

Mae teulu a gollodd eu mab yn ddiweddar yn dweud bod rhaid “chwalu stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl” yng nghefn gwlad.

Bu farw Twm Bryn o Chwilog, ym mis Hydref eleni, rai dyddiau ar ôl troi’n 21 oed. Y gred yw ei fod wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad. 

Roedd yn seiclwr dawnus oedd yn cystadlu ar lefel uchel ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn ffermio. 

Mae ei deulu wedi codi pryderon am y ddarpariaeth iechyd meddwl sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef. 

Image
Twm Bryn
Y dybiaeth yw fod Twm wedi marw o hunanladdiad ddechrau mis Hydref.

Mae ei rieni, Bryn a Bethan Jones, am godi ymwybyddiaeth o salwch meddwl mewn cymunedau gwledig er mwyn helpu eraill.

“Rŵan di’r amser i bobl sylweddoli bod ’na bobl allan yna sy’n dioddef, a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn bobl sy’n ymddangos fel tase nhw’n dioddef,” meddai Bethan, ei fam.

“Yn gyffredinol, fel Cymry, fel pobl sy’n byw ym maes amaeth, ma’ 'na hen draddodiad bod yn rhaid i’r hogia fod yn tyff, yn macho.

“Mae’n rhaid i bobl trio trafod ymysg eu ffrindia, eu teuluoedd, yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i bobl ddod allan o’r stigma a’r cywilydd sydd ynghlwm efo iechyd meddwl,” meddai Bryn.

Yn ôl ymchwil gan elusen y Sefydliad Brenhinol dros Les Amaethyddol, neu RABI, mae 36% o bobol sy’n gweithio mewn cymunedau amaethyddol ym Mhrydain yn dioddef gydag iselder. 

Yn ôl y ffigyrau llawn diweddaraf sydd ar gael, bu farw 83 o bobol oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant amaeth ym Mhrydain drwy hunan-laddiad.

Ers gadael yr ysgol, byddai Twm Bryn yn treulio cyfnodau yn contractio ac wyna ar ffermydd, ac roedd yn berchen praidd o ddefaid. Ei freuddwyd oedd ffermio’n llawn amser yn y dyfodol.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar, mae Bryn a Bethan yn siarad am y tro cyntaf ar gamera am y boen o golli mab oedd mor annwyl a phoblogaidd.

“Ro’dd o’n ddireidus, yn entertainer. Do’dd ganddo fo ddim ffilter, o’dd on dweud beth odd ar ei feddwl, odd o’n barod iawn i siarad a gwneud efo unrhywun,” meddai Bethan.

Image
Bryn a Bethan Jones
Bryn a Bethan Jones yn siarad am y tro cyntaf ar gamera am golli eu mab 21 oed, Twm.

“Mewn un ffordd, oddan ni’n meddwl, ma’ gin Twm bob peth; odd gyno fo’i waith, ei gar, ei ddefaid, ei gartref, gwybod bo’ ni gyd yn ei garu fo, ei gariad, a twr o ffrindiau.”

“Ond yn amlwg, ro’dd na rywbeth bach ar goll.”

Cyfnod Covid wedi rhoi pwysau ychwanegol

Flwyddyn a hanner yn ôl, fe ddechreuodd y teulu sylwi ar newid yn Twm.

“O’dd on berson gwahanol adra. O’dd o’n buddsoddi ei egni i gyd yn bod yn ‘Twm’ tu allan i’r drysa, ond pan odd o adra, oddan ni’n gweld y newid,” yn ôl ei dad.

“Ro’dd o wedi colli pwysau, do’dd o ddim yn gallu bwyta, do’dd o ddim yn cysgu.

“Odd o wedi gallu agor i fyny i ni’n dau. Ond methu egluro chwaith, methu ffeindio’r geiria.”

“O’dd o’n dweud ‘dwi jyst ddim yn gwybod sut dwi’n teimlo. Dwi mond yn gallu deud nad ydw i’n teimlo’n iawn. A dwi’n teimlo’n wag. A bod gen i ddim ystyr mewn bywyd.”

Gydag anogaeth ei rieni, roedd wedi ceisio cael cymorth. Ar ôl cael galwad ffôn gyda’r doctor a chael ei gyfeirio at dîm iechyd meddwl, buodd ar restr aros am wythnosau, cyn cael apwyntiad dros y ffôn eto. 

'Ddim yn gweld sut mae gwneud asesiad dros y ffôn'

“Fel nyrs fy hun, dwi ddim yn gweld sut mae gwneud asesiad o rywun dros y ffôn,” meddai Bethan.

“Dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr o gwbwl, yn enwedig iechyd meddwl. Ro’dd angen ei weld o, ro’dd angen gweld sut odd o’n ymateb, gweld sut odd o’n ymddwyn.”

Ym marn y rhieni, mae profiad Twm yn dangos bod diffygion gyda’r ddarpariaeth i helpu’r rheiny sydd â phroblemau iechyd meddwl.

“Dydy’r gwasanaeth ddim yna, does ’na ddim byd. Dyna pam da ni’n teimlo’n gryf i godi ymwybyddiaeth a chodi arian i elusennau fatha DPJ achos ma’n rhaid cael rhywbeth fedrith rywun gael ryw fath o fynediad tuag ato fo.”

Image
Elen Gwen Williams
Mae Elen Gwen Williams yn gwirfoddoli gyda Sefydliad DPJ, sef elusen iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

Mae Sefydliad DPJ, sef elusen iechyd meddwl yng nghefn gwlad, wedi darparu gwasanaeth cwnsela i 171 o bobol sydd â phryderon iechyd meddwl yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Ond, maent yn ofni bod cannoedd yn rhagor o bobl yn dioddef mewn tawelwch.

“Fel ffermwyr, da ni’n gallu trwsio tractor, ’da ni’n codi sied, da ni’n gallu trwsio petha, ond pan ma’n dod i ni’n hunain, da ni’n lapio fo i fyny fel tasa fo ddim yn broblam,” meddai Elen Gwen Williams, sy’n gwirfoddoli gyda’r elusen.

“Rhaid i ni allu ofyn y cwestiwn i bobl ‘Wyt ti’n iawn?’ Da ni’n aml iawn fatha ffermwyr yn gofyn ‘Sumae?’ a dyna ni, ond dy’n ni ddim yn gofyn yn iawn - ‘ydach chi’n iawn?’”

Mewn datganiad, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod yn estyn eu “cydymdeimlad dwysaf â theulu Twm.”

“Er na allwn gynnig sylwadau ar y gofal a roddir i gleifion unigol, gallwn gadarnhau bod cyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu hadolygu’n ddyddiol.” 

“Ers y pandemig, bu’n angenrheidiol i nifer o asesiadau gael eu cynnal dros y ffôn. Fodd bynnag, caiff asesiadau wyneb yn wyneb eu cynnig pan fo hynny'n briodol.”

Fe ychwanegon nhw eu bod nhw’n gweithio gydag ystod o bartneriaid i wella'r gefnogaeth gynnar sydd ar gael i bobl sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl.

Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu nos Fercher am 20:25 ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.