Llifogydd mewn sawl ardal yn ne-orllewin Cymru

Llifogydd

Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd mewn sawl ardal yn ne-orllewin Cymru nos Fawrth.

Mae rhybudd melyn am law mewn grym tan 8:00 fore Mercher ac mae 17 o rybuddion llifogydd mewn grym. 

Mae amodau gyrru yn heriol mewn mannau. Rhwng Caerfyrddin a Hendy-gwyn ar daf does dim trenau ar hyn o bryd am fod dŵr wedi gorlifo ar y cledrau. 

Yn Sir Gaerfyrddin mae un tafarn wedi bod yn rhannol dan ddŵr ac un coleg wedi gorfod cau ei ddrysau oherwydd y llifogydd.

Rhannodd tafarn y Cresselly Arms ym Mhontargothi luniau o'u tafarn dan ddŵr gyda'r llifogydd yn llifo drwy'r ffenestri yno.

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu galw yno i gynorthwyo gyda gwagio'r dŵr o'r dafarn brynhawn ddydd Mawrth. 

Fe wnaethon nhw achub dau berson o gar yn Saron yn Llandysul hefyd yn sgil llifogydd. 

Yn Llandeilo fe benderfynodd Coleg Sir Gâr gau'r campws ddydd Mawrth ac fe fydd y campws ar gau dydd Mercher oherwydd llifogydd.

Mewn datganiad dywedodd y coleg: "Bydd Campws Gelli Aur ar gau i ddysgwyr a staff ddydd Gwener oherwydd tywydd garw a llifogydd. Bydd gwersi'n cael eu cynnal ar-lein.

"Bydd pob campws arall yn aros ar agor fel yr arfer."

Ger afon Cynin yn Sanclêr mae ceir wedi eu symud o faes parcio'r dref wrth i'r afon or-lifo yno ac mae dŵr yn llifo ar y ffordd a'r palmentydd ar y brif stryd yn y dref.

Mae adroddiadau hefyd am lifogydd ar ffyrdd yn ardal Meidrim ger Sanclêr, Alltwalis i'r gogledd o Gaerfyrddin, ac Abergwili ar gyrion Caerfyrddin.  

Mae Pont Llechryd a'r B4476 Llandysul i Brengwyn ar gau ar hyn o bryd.

Image
Llifogydd yn San Clêr
Llifogydd yn Sanclêr

Rhybuddion llifogydd

Ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru mae 17 o rybuddion llifogydd mewn grym a 41 rhybudd 'byddwch yn barod' am lifogydd.

Mae sawl un o'r rhain yn rhybuddion coch. 

Mae’r rhybuddion coch ar gyfer yr afonydd hyn:

Afon Ritec yn Ninbych y Pysgod

Afon Tywi rhwng Llandeilo a Lanwrda  

Afon Taf yn Nhrefechan, Hendy-gwyn

Afon Taf yn Ffordd yr Orsaf, Hendy-gwyn

Afonydd Taf a Gronw i'r dwyrain o Stryd Sant Ioan, Hendy-gwyn

Afonydd Taf a Gronw i'r gorllewin o Stryd Sant Ioan, Hendy-gwyn

Afon Tywi wrth Hen Heol Llangynnwr, Caerfyrddin

Afon Teifi yn Llechryd

Afon Teifi yng Nghenarth

Afon Teifi yng Nghastellnewydd Emlyn

Afon Tyweli yn Ffordd yr Orsaf, Llandysul

Afon Cothi mewn ardaloedd isel

Afon Tywi wrth Gei Caerfyrddin, Caerfyrddin

Afon Tywi, eiddo ynysig rhwng Llandeilo ac Abergwili

Afon Hydfron yn Llanddowror

Afon Cynin yn Sanclêr

Yr Afon Gwendraeth Fach yng Nghydweli 

 

 

 

 

Image
Rhybuddion llifogydd yn ne a gorllewin Cymru. (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Rhybuddion llifogydd yn ne a gorllewin Cymru. (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod negeseuon awtomatig wedi eu hanfon i bobl yn yr ardaloedd lle mae rhybuddion coch mewn grym.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n "monitro'r sefyllfa" ym mhob ardal ar hyn o bryd.

Yn Abertawe, mae cylchfan Cwmbwrla dan ddŵr eto wedi llifogydd difrifol yno ym mis Medi.

Mae disgwyl i Ffordd Goetre Fawr yng Nghilâ a Nghwmbwrla a chylchfan Cwmbwrla fod ar gau "am beth amser" meddai'r heddlu.

Ychwanegodd Cyngor Abertawe bod eu "tîm priffyrdd ar y safle" ac y byddant yn "darparu diweddariadau pellach ar y problemau llifogydd yn y lleoliad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.