Streic Ferodo: ‘Pwysig i bobl beidio cymryd hawliau gweithwyr yn ganiataol’
Streic Ferodo: ‘Pwysig i bobl beidio cymryd hawliau gweithwyr yn ganiataol’
Mae cyn-weithwyr ffatri Ferodo yng Nghaernarfon yn dweud ei bod yn “bwysig” i bobl beidio â chymryd hawliau gweithwyr yn ganiataol, chwarter canrif ers dechrau streic hanesyddol ar y safle.
Yn 2001, cychwynnodd streic gan 86 o weithwyr cwmni Friction Dynamics, oedd yn cynhyrchu leiniau brêc i geir. Daeth y penderfyniad wedi i berchennog Americanaidd newydd y cwmni, Craig Smith, gyflwyno telerau ac amodau newydd i weithwyr oedd yn ceisio cyfyngu ar hawliau aelodau undeb.
Ar ôl cael eu cloi allan o’r ffatri a’u diswyddo gan Smith, arhosodd y gweithwyr ar y linell biced am bron i dair blynedd – fel rhan o un o’r streiciau hiraf yn hanes y DU.
Yn ddiweddarach, enillodd y gweithwyr eu cais am ddiswyddo annheg mewn tribiwnlys cyflogaeth – dyfarniad oedd yn “fuddugoliaeth foesol” yn unig yn ôl rhai, gan na dderbynion nhw’r un geiniog o iawndal.
‘Perthnasau wedi’u difrodi am byth’
25 mlynedd ers cychwyn yr anghydfod, mae ffilmio wedi cychwyn ar gyfres ddrama ar gyfer S4C sy’n olrhain hanes Y Streic Fawr, yn seiliedig ar brofiadau’r gweithwyr.
Mae tri cyn-weithiwr Ferodo o Gaernarfon, John Davies, Gerald Parry a Barry Williams, wedi cydweithio ar y prosiect gyda’r cwmni cynhyrchu, Mojo.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd cynhyrchydd y gyfres, Llyr Morus, a gafodd ei fagu yng Nghaeathro, fod y stori wedi bod yn “rhan o fy magwraeth”.
“Roedd bron i 100 o ddynion a merched ar streic, a’r hyn roedden ni eisiau canolbwyntio arno hefyd oedd yr effaith bersonol gafodd y streic ar deuluoedd, cyfeillgarwch a pherthnasau.
“Mae rhai o’r perthnasau a’r cyfeillgarwch yna dal wedi’u difrodi hyd heddiw.
“Dyna sy’n gyrru stori’r gyfres - straeon personol a’r effaith gafodd y streic ar rai o’r gweithwyr a’u teuluoedd, yn hytrach na dim ond hanes beth ddigwyddodd.”
Ychwanegodd awdur y gyfres, Ffion Dafis: “Dwi’n dweud stori go iawn am bobl go iawn, ac mae hi’n stori sy’n golygu cymaint i’r gymuned. Mi wnaeth hi rwygo’r gymuned am gyfnod, ac mae ei chreithiau hi dal i’w gweld o gwmpas Caernarfon.
“Mae’r dynion yma wedi bod drwy brofiad fydd yn aros efo nhw am byth, ac wedi eu diffinio nhw - mae’n rhan o’u hunaniaeth nhw bellach. Felly dyna’r cyfrifoldeb rydan ni’n ei deimlo fwyaf.”
‘Mynd yn angof’
Un o’r cyn-weithwyr a fu’n ymgynghori ar y gyfres yw John Davies. Fe weithiodd yn y ffatri am tua 30 mlynedd, ac fe gafodd ei benodi gan ei gyd-weithwyr fel cynrychiolydd yn eu gohebiaeth gyda Craig Smith.
“Mewn un ffordd, mae o’n mynd yn angof achos mae’r byd yn newid mor gyflym rŵan.
“Be sy’n bwysig ydy bod ni byth yn anghofio’r pethau da ni’n eu cymryd yn ganiataol, ac nath ein teidiau a’n hen deidiau ymladd i ni gael – addysg, hawl i gael doctor, pobl byth yn llwgu eto a’r hawl i symud o gwmpas.”
Dywedodd Gerald Parry, a weithiodd yn Ferodo am 14 mlynedd: “Mae o fel streic y Penrhyn yndi – fydd pobl byth yn anghofio honna. Os wnawn ni hyn yn iawn, neith pobl ifanc feddwl ‘O blydi hell, oedd fy nhad a’n nhaid i fanna’. Peidiwch â gadael y stori farw.”
Mawr yw dyled pobl yr ardal i’r ffatri, meddai Mr Davies.
“Pan ti’n meddwl be mae’r ffatri wedi’i gyfrannu i’r ardal ers iddi agor, heblaw amdani fysa lot o bobl ddim wedi cael y safon byw sydd ganddyn nhw heddiw, na’r cyfle i’w plant fynd i brifysgol.
“Trwy’r ffatri oedden nhw’n cael hynny achos oedd hi’n talu cyflogau da. Roedd hi’n ffatri o flaen ei hamser. O gwmpas Sir Fôn, Porthmadog, Llandudno, roedd pobl yn dod i weithio yma, dros fil ohonyn nhw.”
‘Stori Gymreig’
Bydd y gyfres yn olrhain stori sy’n gyfarwydd i sawl cymuned yng Nghymru, yn ôl y cyfarwyddwr, Huw Chiswell.
“Dwi’n cofio’r cyfnod yn iawn. O’n i’n treulio amser yn y cyffiniau, ac yn cofio’r gweithwyr allan ar y lein ym mhob tywydd, ac oeddwn i'n canu corn wrth gwrs, wrth fynd heibio.
“Mae’n stori Gymreig iawn. Mae hanes gweithredu diwydiannol yn ein gwythiennau ni yn y de ac yn y gogledd.
“Mae’n hanesyddol ond yn un modern hefyd. Mae olion y stori dal i’w gweld – ar safle Ferodo yng Nghaernarfon ac yn y pyllau glo segur yn y de. Mae’n stori bwysig i’w hadrodd.”
Ychwanegodd Llyr Morus: “Mi wnaethon nhw ennill yr achos ond, yn anffodus, buddugoliaeth foesol yn unig gafon nhw.
“Chaethon nhw ddim yr hyn oedden nhw’n ei haeddu’n ariannol. Ond mi gafodd y streic effaith bositif ar gyfreithiau gweithwyr. Mae aberth y gweithwyr 25 mlynedd yn ôl dal yn cael effaith hyd heddiw.
“Mae’n bwysig bod cenedlaethau newydd yn gwybod beth ddigwyddodd yng Nghaernarfon, a’r newid ddaeth yn sgil hynny. Mae cadw’r stori’n fyw yn holl, hollbwysig.”