Teyrnged teulu i ddyn a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Roger Hawcroft

Mae teulu dyn a fu farw ar ôl gwrthdrawiad ger Mynytho ym Mhen Llŷn ddydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Roger Hawcroft yn 67 oed ac yn byw ym Motwnnog gyda'i deulu. 

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Bu farw dad yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda'r haul ar ei wyneb a'r môr wrth ei ochr. 

"Er mor drist yr ydym, ni fyddai wedi dymuno dim byd yn wahanol ac felly y bu.

"Rydyn ni'n gwybod faint o bobl oedd yno i'w helpu ar y diwrnod, yr arbenigwyr a'r bobl gyffredin, ac rydyn ni eisiau i chi nid yn unig wybod pa mor ddiolchgar ydyn ni, ond ein bod ni'n dawel ein meddyliau, ac yn dymuno'r un peth i bob person arall a wnaeth gymryd rhan.

"Mae ein mam annwyl yn gweddïo drosoch am byth."

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am dystion a gwybodaeth a all eu cynorthwyo gyda'u hymholiadau. 

Cafodd swyddogion eu galw i adroddiadau am wrthdrawiad rhwng VW Polo coch a beic modur Yamaha du ar y B4413 tua 15:00 ddydd Sadwrn.

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000326787. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.