Cyn heddwas ar restr waharddedig ar ôl camymddwyn difrifol
Mae gwrandawiad brys wedi clywed y byddai cyn heddwas gyda Heddlu Gwent wedi cael ei ddiswyddo ar unwaith petai heb ymddiswyddo o'i wirfodd.
Ni ymddangosodd y cyn gwnstabl Wayne Tancock yn y gwrandawiad cyhoeddus yng Nghwmbrân ddydd Mawrth, 28 Ebrill. Roedd yn wynebu tri honiad ei fod wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol.
Cafodd ymchwiliad ei lansio gan Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent ym mis Mehefin 2025 yn dilyn adolygiad o fideo oedd wedi ei recordio ar gamera corff y swyddog, oedd wedi cofnodi'r heddwas yn gwneud sylwadau rhywiol am ferched ac yn defnyddio iaith ddilornus am y gymuned deithol, tra’r oedd ar ddyletswydd mewn car heddlu.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol y llu, Nick McLain, a gadeiriodd y gwrandawiad, bod y cyn heddwas wedi torri tri safon ymddygiad proffesiynol, sef “awdurdod, parch a chwrteisi”, ynghyd â “chydraddoldeb ac amrywiaeth” ac “ymddygiad anfriol”.
“Roedd ymddygiad y cyn-swyddog hwn yn gwbl annerbyniol; nid ydym ni na’r cyhoedd yn derbyn ymddygiad o’r fath gan swyddogion heddlu, boed ar ddyletswydd neu oddi ar ddyletswydd," meddai.
“Mae ein cymunedau’n disgwyl yn gwbl briodol i’n swyddogion a’n staff gynnal y safonau uchaf o ymddygiad ac i beidio ymddwyn mewn ffordd a all danseilio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth. Fodd bynnag, mae’r cyn-swyddog hwn wedi methu gwneud hynny.
“Ni fyddwn yn derbyn misogyny, hiliaeth na gwahaniaethu gan ein swyddogion na’n staff.
“Mae’r mwyafrif helaeth o swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i Heddlu Gwent yn ymddwyn yn rhagorol ac yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu’r cyhoedd; mae’r ychydig iawn sy’n dewis torri’r safonau a ddisgwylir ganddynt yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd yn y plismona”
Bydd cyn gwnstabl Tancock nawr yn cael ei roi ar restr waharddedig Coleg yr Heddlu.
