Arestio dyn ar ôl i ddau o bobl gael eu trywanu yn Llundain, meddai grŵp diogelwch Iddewig
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddau o bobl gael eu trywanu yn Golders Green yng ngogledd-orllewin Llundain, meddai grŵp diogelwch Iddewig.
Cafodd y dyn ei weld yn rhedeg ar hyd Ffordd Golders Green yn y ddinas gyda chyllell ac yn "ceisio trywanu aelodau Iddewig o'r cyhoedd", meddai Shomrim mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mercher.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd y dyn ei gadw gan aelodau'r grŵp cyn i swyddogion yr heddlu ei atal gyda gwn taser a'i arestio.
Mae Shomrim wedi adrodd fod dau berson wedi cael eu trywanu.
Maen nhw'n cael eu trin gan Hatzola, sef y gwasanaeth ambiwlans cymunedol Iddewig sy'n gweithredu yn Golders Green.
Daw'r ymosodiad ddydd Mercher ar ôl i bedwar ambiwlans Hatzola gael eu rhoi ar dân yn fwriadol ym mis Mawrth.
Mewn datganiad ar X, dywedodd yr elusen Iddewig yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol: "Bu ymosodiad â chyllell heddiw yn Golders Green.
"Mae’r unigolyn sy'n cael ei amau wedi cael ei arestio. Hoffem ddiolch i @shomrimlondon, @Hatzola a @metpoliceuk am eu hymateb cyflym.
"Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu, Shomrim a CST ar unwaith."
Ychwanegodd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad trywanu yn Golders Green, gyda dau wedi’u hanafu. Mae’r heddlu wedi dal rhywun dan amheuaeth.
"Rydym yn cysylltu â’r CST, y Llywodraeth a’r heddlu i ddeall beth sydd wedi digwydd a sicrhau ymateb cadarn."
Rhagor i ddilyn.
