Mam bachgen 17 oed fu farw mewn damwain yn Eryri yn annog pobl ifanc i yrru'n ddiogel

ITV Cymru
Harvey Owen
Harvey Owen

Mae mam bachgen 17 oed a fu farw mewn damwain yn Eryri dros ddwy flynedd yn ôl wedi annog pobl ifanc i yrru'n ddiogel mewn digwyddiad mewn coleg yn Wrecsam.

Fe wnaeth mab Crystal Owen, Harvey, a thri o'i ffrindiau foddi ar ôl i'w car wyro i mewn i ffos ger Llanfrothen yng Ngwynedd ym mis Tachwedd 2023.

Roedd Harvey a'i ffrindiau Hugo Morris, Wilf Fitchett a Jevon Hirst wedi teithio o Sir Amwythig i Eryri er mwyn gwersylla yno adeg y ddamwain.

Daeth cwest i'w marwolaethau i'r casgliad fod gyrrwr y car wedi bod yn mynd yn rhy gyflym o amgylch tro, gan achosi i'r cerbyd adael y ffordd.

Dywedodd Ms Owen fod y boen o golli ei mab mewn damwain car y tu hwnt i eiriau.

"Does dim digon o eiriau yn y geiriadur i esbonio'r boen, wel does dim geiriau i fod yn onest," meddai.

"Mae'n teimlo fel pe bai eich calon wedi cael ei rwygo o'ch brest.

"Dyma'r teimlad mwyaf erchyll yn y byd oherwydd fel mam gallwch chi fel arfer wneud popeth yn well... 

"Mae'r sioc yn annisgrifiadwy."

Image
Crystal Owen
Crystal Owen, mam Harvey

Rhannodd Ms Owen ei phrofiad gyda grŵp o yrwyr ifanc yn ystod lansiad y prosiect Arrive and Alive yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam ddydd Mercher.

Nod y digwyddiad oedd dysgu dysgwyr gyrru sut i yrru'n gyfrifol er mwyn atal damweiniau ceir sy'n cynnwys pobl ifanc.

Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Coleg Cambria, Karl Jackson: "Mae'n ymddangos bod pobl ifanc yn pasio eu prawf gyrru ac yn tyfu set o gyrn. 

"Mae'n rhaid iddyn nhw feddwl am yr hyn maen nhw'n ei wneud."

Mae Ms Owen yn credu bod angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg ymhlith gyrwyr newydd o ran aros yn ddiogel a chludo teithwyr o oedran tebyg.

"Doeddwn i ddim yn sylweddoli mai dyma oedd y prif achos marwolaethau ymhlith pobl ifanc," meddai.

"Dydy o ddim allan yna ddigon, wyddoch chi... mae marwolaeth ffordd yn cael ei derbyn ac yn aml yn cael ei galw’n ddamwain, ond mae cyfrifoldeb ar y gyrrwr, felly nid yw'n ddamwain.

"Does neb yn bwriadu lladd rhywun, ond mae gan bobl allweddi i beiriant a all fod yn angheuol."

Ychwanegodd: "Doeddwn i byth yn meddwl y byddai marwolaeth ffordd yn effeithio ar ein teulu, ond mae wedi - a dyna'r broblem, rydych chi bob amser yn meddwl y bydd yn effeithio rhywun arall."

Ers marwolaeth Harvey, mae Ms Owen yn galw am gyflwyno trwydded yrru raddedig ar gyfer pob gyrrwr yn y DU rhwng 17 a 19 oed.

Byddai hyn yn golygu na fyddai gyrwyr ifanc yn cael cludo teithwyr o dan 25 oed, oni bai eu bod yng nghwmni oedolyn.

Mae’r cynnig ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.