Gofyn i AI am gymorth iechyd yn gallu peryglu bywyd, yn ôl elusen flaenllaw
Mae elusen ganser yng Nghymru wedi rhybuddio bod gofyn i AI am gymorth iechyd yn gallu peryglu bywydau.
Dywedodd Dr Lee Campbell, pennaeth ymchwil elusen Ymchwil Canser Cymru, fod y wybodaeth sy'n cael ei darparu gan wefannau fel ChatGPT yn gallu bod yn "or-gyffredinol, hen ac anghywir.”
Daw ei sylwadau wedi i arolwg ganfod fod bron i un o bob 10 menyw yn y DU wedi troi at AI ar gyfer cymorth ar ôl profi problemau iechyd gynaecolegol.
Cafodd dros 2,000 o fenywod eu holi, gyda 28% ohonynt yn dweud bod y wybodaeth a dderbyniwyd gan AI wedi eu hannog i weld doctor.
Mae canserau gynaecolegol y groth, yr ofarïau, ceg y groth, y fwlfa a'r wain yn effeithio ar tua 22,000 o fenywod yn y DU bob blwyddyn, gan achosi bron i 8,000 o farwolaethau.
'Byth ddibynnu ar ffynonellau AI'
Dywedodd Dr Campbell wrth Newyddion S4C fod AI yn "methu gweld symptomau eraill," gan ychwanegu fod gan feddyg teulu fynediad at "ddarlun clinigol llawn".
“Byddai Ymchwil Canser Cymru bob amser yn cynghori pobl i fynd yn gyntaf i weld eu meddyg teulu am gyngor ar faterion gofal iechyd, a defnyddio ffynonellau dibynadwy o wybodaeth, fel gwefan GIG Cymru yn unig, i ddod o hyd i ffeithiau a chasglu gwybodaeth gyffredinol am eu hiechyd a'u salwch," meddai.
"Ni ddylech fyth ddibynnu ar ffynonellau AI fel ChatGPT ar gyfer ymholiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd gan y gall y wybodaeth a roddir fod yn or-gyffredinol, hen ac anghywir.”
Ychwanegodd y gallai hynny, mewn rhai achosion, olygu rhoi eich bywyd mewn perygl.
“Mae gan eich meddyg teulu fynediad at y darlun clinigol llawn o'r unigolyn o'i flaen, lle y byddai AI yn methu gweld symptomau eraill, amhendant, ond pwysig sydd eu hangen ar gyfer diagnosis cywir.
"Hefyd bydd y meddyg teulu yn ymwybodol o'ch hanes meddygol llawn a gyda chofnod o unrhyw feddyginiaeth y mae’r person yn ei neu wedi ei gymryd.
"Bydd AI yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd o ffynonellau heb eu dilysu o bob cwr o'r rhyngrwyd ledled y byd.
"Fel y gwyddom, mae systemau iechyd yn amrywio'n fawr rhwng gwahanol wledydd, ynghyd â chanllawiau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig ag iechyd, sy'n gallu cynyddu'r risgiau o wrando ar AI am gyngor iechyd ac mewn rhai achosion fe allai'r goblygiadau roi eich bywyd mewn perygl."
Oedi
Fe wnaeth elusen The Eve Appeal ddefnyddio gwefan AI ChatGPT i greu 25 senario gwahanol o rywun yn mynd at AI i ofyn am gymorth gyda symptomau canser gynaecolegol.
Nid oedd y platfform wedi nodi canser yr ofarïau fel diagnosis posibl o chwyddo parhaus am fwy na thair wythnos, er ei fod yn un o brif symptomau'r fath ganser.
Er bod ChatGPT wedi argymell gweld meddyg, roedd hynny ar gyfer cymorth gyda syndrom coluddyn llidus (IBS).
Roedd ymchwil gan The Eve Appeal hefyd wedi canfod fod gwybodaeth gan ChatGPT ddim yn berthnasol i system iechyd y DU nac yn dilyn argymhellion y Gwasanaeth Iechyd.
Mewn rhai achosion roedd y cymorth yn hen neu'n anghywir.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai defnyddio platfformau yn y ffordd yma arwain at fenywod yn oedi cyn derbyn cymorth meddygol.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i OpenAI, sydd yn rhedeg gwefan ChatGPT, am ymateb.